12/12/2007 - Dreftadaeth, Amgylchedd, Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Comisiwn

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 28 Tachwedd 2007

i’w hateb ar 12 Hydref 2007

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog dros Dreftadaeth

1. Sandy Mewies (Delyn): Beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i gefnogi theatr Saesneg ei hiaith yng Nghymru. OAQ(3)0116(HER) Tynnwyd yn ôl

2. Jeff Cuthbert (Caerffili): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Cadw a swyddogion ynghylch Castell Rhiw’r Perrai. OAQ(3)0131(HER)

3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad i wella lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon. OAQ(3)0129(HER)

4. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gynlluniau i hyrwyddo cyfranogiad cymunedau yn y celfyddydau. OAQ(3)0145(HER)

5. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu cyllid newydd ar gyfer grwpiau radio cymunedol yng Nghymru. OAQ(3)0128(HER)

6. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Beth yw cynlluniau’r Gweinidog ar gyfer hybu cerddoriaeth? OAQ(3)0152(HER)

7. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hybu reidio beiciau modur 'oddi ar y ffordd’ fel math o chwaraeon yng Nghymru.  OAQ(3)0134(HER)

8. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei bolisïau am dwristiaeth amgylcheddol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(3)0155(HER)W

9. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogi ymgyrch dot.cym i gael statws enw parth i Gymru ar y rhyngrwyd. OAQ(3)0159(HER) W Trosglwyddwyd i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

10. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd treftadaeth i ddiwydiant twristiaeth Arfon. OAQ(3)0157(HER)W

11. Mohammed Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hynt datblygu papur newydd dyddiol iaith Gymraeg. OAQ(3)0140(HER)

12. Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer yr iaith Gymraeg dros dymor hwn y Cynulliad. OAQ(3)0113(HER)

13. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am arwyddion wrth henebion hanesyddol. OAQ(3)0151(HER) Tynnwyd yn ôl

14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dwristiaeth yng nghefn gwlad y gogledd. OAQ(3)0162(HER)

15. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer llyfrgelloedd cyhoeddus. OAQ(3)0146(HER)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

1. Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei pholisïau ynghylch ceisiadau ar gyfer safleoedd tirlenwi newydd. OAQ(3)0165(ESH)

2. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei pholisïau ar gyfer ceisiadau cynllunio am archfarchnadoedd. OAQ(3)0161(ESH)

3. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i wella’r system gynllunio yng Nghymru. OAQ(3)0139(ESH)

4. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei pholisïau ynghylch cloddio glo brig. OAQ(3)0163(ESH) Tynnwyd yn ôl

5. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddylanwad y drefn gynllunio ar ardaloedd gwledig. OAQ(3)0173(ESH) W

6. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gyflwyno newidiadau i ddeddfwriaeth digartrefedd.  OAQ(3)0156(ESH)

7. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i hybu datblygu’r sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru. OAQ(3)0122(ESH)

8. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei pholisïau ar gyfer hybu cynaliadwyedd. OAQ(3)0148(ESH)

9. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o sut y bydd yr astudiaeth ddichonoldeb ar Forglawdd Hafren yn effeithio ar gyllid ar gyfer mathau eraill o ynni adnewyddadwy. OAQ(3)0152(ESH)

10. Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am droi olew coginio wedi’i ddefnyddio yn fiodanwydd yng Nghymru. OAQ(3)0145(ESH) Trosglwyddwyd i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

11. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i wella’r system gynllunio yng Nghymru. OAQ(3)0183(ESH)

12. Lesley Griffiths (Wrecsam): Pa gamau sy’n cael eu cymryd i baratoi ar gyfer newid yn yr hinsawdd. OAQ(3)0151(ESH)

13. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei chynlluniau ar gyfer cynhyrchu ynni yng Nghymru. OAQ(3)0171(ESH)

14. Jeff Cuthbert (Caerffili): Beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. OAQ(3)0155(ESH)

15. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae ei pholisïau’n gwarchod tirwedd Cymru. OAQ(3)0147(ESH)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

1. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gynlluniau i hybu cynhwysiant cymdeithasol yn y Canolbarth. OAQ(3)0166(SJL)

2. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): Beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i annog menywod i godi eu llais yn erbyn trais yn y cartref. OAQ(3)0164(SJL)

3. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cytundeb polisi rhwng Llywodraeth y Cynulliad ac awdurdodau lleol yng Nghymru. OAQ(3)0112(SJL)

4. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ei drafodaethau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch setliad cyllido llywodraeth leol. OAQ(3)0134(SJL)

5. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brosiectau i fynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol yn y canolbarth. OAQ(3)0126(SJL)

6. Michael German (Dwyrain De Cymru): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i leihau’r bwlch tâl rhwng y ddau ryw. OAQ(3)0156(SJL)

7. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am awdurdodau lleol nad ydynt wedi mabwysiadu cynllun datblygu lleol. OAQ(3)0153(SJL) Trosglwyddwyd i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.

8. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y berthynas gydag awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0115(SJL)

9. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y grant Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol. OAQ(3)0130(SJL)

10. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gydag awdurdodau lleol ledled Cymru ynghylch gweithredu 'arwynebau a rennir’. OAQ(3)0150(SJL)

11. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y grant Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol. OAQ(3)0132(SJL)

12. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i fynd i’r afael â phroblem ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghymru. OAQ(3)0125(SJL)

13. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad i helpu pobl a chymunedau i ddelio â chamddefnyddio sylweddau. OAQ(3)0116(SJL)

14. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau tân ac achub yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0139(SJL) Tynnwyd yn ôl

15. Bethan Jenkins (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynd i’r afael â thlodi ymhlith plant. OAQ(3)0143(SJL)

Gofyn i Aelod Comisiwn y Cynulliad

1. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio bwydydd wedi’u haddasu’n enetig yn ystâd y Cynulliad. OAQ(3)0004(COM)