Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Ionawr 2012 i’w hateb ar 25 Ionawr 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
1. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith amgylcheddol Nwyeiddio Glo Tanddaearol. OAQ(4)0072(ESD)
2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella bioamrywiaeth dwr croyw yn Nwyrain De Cymru. OAQ(4)0084(ESD)
3. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu lefel buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cynlluniau lliniaru llifogydd yn Ne Cymru. OAQ(4)0077(ESD)
4. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r cynigion gan Ofgem i symleiddio tariffau ynni i ddefnyddwyr domestig. OAQ(4)0079(ESD)
5. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer Tor-faen yn 2012. OAQ(4)0082(ESD)
6. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglyn â statws Llyn Padarn fel SoDdGA. OAQ(4)0085(ESD) W
7. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf. OAQ(4)0078(ESD)
8. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli’r perygl o lifogydd yng Nghymru. OAQ(4)0075(ESD)
9. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella’r amgylchedd lleol yn Nyffryn Clwyd. OAQ(4)0083(ESD) Tynnwyd yn ôl.
10. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i archwilio effaith allyriadau diwydiannol ar yr amgylchedd. OAQ(4)0073(ESD)
11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gyngor mae’r Gweinidog yn ei roi i awdurdodau lleol yng Nghymru i ddelio â phroblem Clymog Japan. OAQ(4)0074(ESD)
12. Aled Roberts (North Wales): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y targed i blannu coed erbyn 2020 o fewn Fframwaith yr Amgylchedd Naturiol. OAQ(4)0071(ESD) W
13. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei strategaeth ar gyfer sicrhau bod teuluoedd ar incwm isel yn byw mewn cartrefi sy’n defnyddio ynni yn effeithlon. OAQ(4)0074(ESD)
14. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu bywyd gwyllt yng Nghymru. OAQ(4)0080(ESD)
15. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynd i’r afael â'r newid yn yr hinsawdd. OAQ(4)0081(ESD)
Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglyn â darlledu sianeli Cymraeg yng ngogledd ddwyrain Cymru. OAQ(4)0075(HRH)W
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i ddod ag eiddo gwag yn ôl i’r farchnad rhent neu i’w gwerthu. OAQ(4)0085(HRH)W
3. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo treftadaeth Cymru yn ystod 2012. OAQ(4)0074(HRH)
4. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglyn â lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon. OAQ(4)0084(HRH)W
5. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a yw wedi cael unrhyw gyfle i gwrdd ag enwadau eglwysi Cymru i drafod ffordd ymlaen ar gyfer diogelu capeli hanesyddol yng Nghymru. OAQ(4)0076(HRH)
6. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i ddatblygu Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn y dyfodol. OAQ(4)0080(HRH)
7. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith newidiadau’r DU i fudd-daliadau tai ar unigolion a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(4)0082(HRH)
8. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ddatblygu pêl-droed yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0072(HRH)W
9. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r cynnydd diweddar mewn perthynas â chynllun Ardal Adfywio Strategol Aberystwyth. OAQ(4)0079(HRH)W
10. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi adfywio trefi ledled Cymru. OAQ(4)0078(HRH)
11. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu prynwyr tro cyntaf. OAQ(4)0077(HRH)
12. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas ag eiddo manwerthu gwag yng nghanol trefi i gefnogi adfywio canol trefi. OAQ(4)0083(HRH)
13. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau o dan y rhan o'i bortffolio sy’n ymwneud â thai. OAQ(4)0073(HRH)
14. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei strategaeth ar gyfer ymdryn â thai gwag. OAQ(4)0081(HRH)