30/05/2012 - Addysg a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Mai 2012
i’w hateb ar 30 Mai 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

1. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn Rhondda Cynon Taf. OAQ(4)0143(ESK)

2. David Melding (Canol De Cymru): Pa fesurau sydd ar waith i gefnogi myfyrwyr sy'n astudio drwy ddysgu o bell. OAQ(4)0137(ESK)

3. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflawniad disgyblion o leiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. OAQ(4)0142(ESK)

4. Lynne Neagle (Tor-faen): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi hwb i lefelau sgiliau yn Nhor-faen. OAQ(4)0141(ESK)

5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwella safonau addysgol ledled Canol De Cymru. OAQ(4)0136(ESK)

6. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am roi’r fframwaith sgiliau ar waith. OAQ(4)0139(ESK)

7. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyrhaeddiad addysgol yn Nyffryn Clwyd. OAQ(4)0138(ESK)

8. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Strategaeth Addysg Gymraeg. OAQ(4)0135(ESK) W

9. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i ddiwygio lles. OAQ(4)0134(ESK)

10. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg ôl-16 yn Nhor-faen. OAQ(4)0140(ESK)

11. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brofion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol. OAQ(4)0144(ESK)

12. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. OAQ(4)0146(ESK) W

13. Elin Jones (Ceredigion): Sut y bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwaith ymchwil ym Mhrifysgolion Cymru. OAQ(4)0147(ESK) W

14. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at brentisiaethau yng Nghymru. OAQ(4)0145(ESK)

15. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfranogiad mewn dysgu gydol oes. OAQ(4)0148(ESK)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

1. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf. OAQ(4)0152(LGC)

2. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sawl Arweinydd a Phrif Weithredwr Awdurdodau Lleol Cymru y mae’n bwriadu cwrdd â hwy dros y chwe mis nesaf. OAQ(4)0146(LGC)

3. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am allu Awdurdodau Lleol i sefydlu pwyllgorau cynllunio ardal. OAQ(4)0156(LGC)

4. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer y gyllideb drafnidiaeth. OAQ(4)0153(LGC) W

5. Julie James (Gorllewin Abertawe): Sut y mae'r Gweinidog yn cyflwyno’r agenda gydweithio ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru. OAQ(4)0150(LGC)

6. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella’r rhwydwaith drafnidiaeth yn Nwyrain De Cymru. OAQ(4)0147(LGC)

7. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Pa amcangyfrif y mae'r Gweinidog wedi’i gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau o’r costau ar gyfer gweithredu ei pholisi i drosglwyddo cyfrifoldeb am Fudd-dal y Dreth Gyngor i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. OAQ(4)0151(LGC)

8. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ystyried ffyrdd o wella cyfranogiad mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. OAQ(4)0155(LGC)

9. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Nwyrain De Cymru. OAQ(4)0141(LGC)

10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am arwyddion ar y rhwydwaith cefnffyrdd. OAQ(4)0139(LGC)

11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr adnoddau sydd ar gael i gynghorau lleol yn y cyfnod 2012-2016. OAQ(4)0138(LGC)

12. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i drafnidiaeth gynaliadwy. OAQ(4)0144(LGC)

13. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fentrau cynhwysiant ariannol Llywodraeth Cymru. OAQ(4)0143(LGC)

14. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Fenter Benthyca Llywodraeth Leol. OAQ(4)0142(LGC) W

15. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ardal Bae Abertawe. OAQ(4)0145(LGC)