03/12/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/02/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Tachwedd 2013 i’w hateb ar 3 Rhagfyr 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Gan gyfeirio at yr ymgynghoriad Papur Gwyrdd ar ddeddfwriaeth mynediad yng Nghymru, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, a yw'r Gweinidog o'r farn ei bod yn angenrheidiol cyflwyno deddfwriaeth newydd mewn perthynas â mynediad ac a wnaiff nodi a fydd hyn yn flaenoriaeth ar gyfer gweddill y Pedwerydd Cynulliad? (WAQ66000)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi pa geisiadau sydd wedi dod i law yn galw am adolygiad o ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer mynediad i gefn gwlad, gan restru'r holl sefydliadau sydd wedi cyflwyno ceisiadau? (WAQ66001)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi dyddiad ar gyfer lansio'r ymgynghoriad Papur Gwyrdd ar ddeddfwriaeth mynediad yng Nghymru? (WAQ66002)

 

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda chynrychiolwyr o'r Alban ynglyn â mynediad i gefn gwlad a sawl cyfarfod a gynhaliwyd â hwy? (WAQ66003)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth y DU ynglyn â mynediad i gefn gwlad a sawl cyfarfod a gynhaliwyd â hwy? (WAQ66004)

Derbyniwyd ateb ar 3 Rhagfyr 2013 (WAQ66003-04)

John Griffiths: I met Baroness Randerson, Parliamentary Under Secretary of State for Wales, on 11 November 2013 to discuss a number of matters, one of which was access to the countryside.

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Rhestrwch bob cyfarfod a gynhaliwyd â sefydliadau ynglyn â mynediad i gefn gwlad ers dechrau'r Pedwerydd Cynulliad, gan roi dyddiad pob cyfarfod ac enwau'r rhai a oedd yn bresennol (WAQ66005)

 

Derbyniwyd ateb ar 3 Rhagfyr 2013

John Griffiths: It is unclear as to whether you are seeking information on Ministerial level meetings or meetings at official level. In either case the request is unreasonable because of the scale of the task. If you wish to be more specific I will endeavour to provide the required information.

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa adnoddau y mae'n bwriadu eu cyflwyno i gynorthwyo diagnosis a gofal pobl y mae angen cymhorthion cyfathrebu cynyddol ac amgen arnynt? (WAQ65996)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa asesiad y mae wedi ei wneud o'r trefniadau comisiynu ar gyfer cymhorthion cyfathrebu cynyddol ac amgen? (WAQ65997)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad o Offer Cyfathrebu? (WAQ65998)

Derbyniwyd ateb ar 3 Rhagfyr 2013 (WAQ65996-8)

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford): An Expert Panel has been established to undertake a focused study into the provision of communication aids. The report is currently being discussed with key stakeholders and I am expecting to receive the final copy of the report early in the New Year. I will write and provide you with more detail at that stage.

 

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith ar lefelau staffio nyrsys? (WAQ65999)

Derbyniwyd ateb ar 2 Rhagfyr 2013
 

Mark Drakeford: All NHS organisations in Wales are working towards a set of core principles to determine nurse staffing on adult medical and surgical wards. We announced an additional £10 million in July to ensure these recommended staffing levels are achieved across Wales and we are monitoring progress regularly.

NHS Wales is in the process of introducing an acuity tool for adult acute in-patient settings as this will give a far more accurate indication of required staffing levels based on the needs of patients. It will be rolled out across Wales from April 2014.