08/11/2011 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 1 Tachwedd 2011 i’w hateb ar 8 Tachwedd 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Alun Ffred Jones (Arfon): Pa brosiectau cyfalaf sydd wedi eu hoedi o fewn portffolio’r Gweinidog ac am ba hyd. (WAQ58274) W

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Alun Ffred Jones (Arfon): Pa brosiectau cyfalaf sydd wedi eu hoedi o fewn portffolio’r Gweinidog ac am ba hyd. (WAQ58273) W

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog wedi’u cymryd i adolygu’r cyfreithiau sy’n ymwneud â pherthi uchel ledled Cymru. (WAQ58270)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

Alun Ffred Jones (Arfon): Pa brosiectau cyfalaf sydd wedi eu hoedi o fewn portffolio’r Gweinidog ac am ba hyd. (WAQ58272) W

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r prif faterion yr eir i'r afael â nhw yn y Bil Iechyd y Cyhoedd arfaethedig. (WAQ58271)

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn rhoi manylion sut y mae’n mynd i’r afael â’r prinder staff yng nghymuned newyddenedigol y De Ddwyrain fel yr amlygwyd yn adroddiad adolygiad Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru Gyfan o gapasiti gwasanaeth newyddenedigol ym mis Chwefror 2011. (WAQ58277)

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Alun Ffred Jones (Arfon): Pa brosiectau cyfalaf sydd wedi eu hoedi o fewn portffolio’r Gweinidog ac am ba hyd. (WAQ58276) W

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Alun Ffred Jones (Arfon): Pa brosiectau cyfalaf sydd wedi eu hoedi o fewn portffolio’r Gweinidog ac am ba hyd. (WAQ58275) W