Atebion a roddwyd i Aelodau ar 10 Rhagfyr 2007
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno
yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A oes unrhyw gynlluniau i newid rheoliadau llywodraeth leol ynglŷn â chyllido ysgolion? (WAQ50772) [W]
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Nodir y fframwaith deddfwriaethol sy'n llywodraethu'r broses o ariannu ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac yn y rheoliadau canlynol a wnaed o dan ddarpariaethau yn y Ddeddf honno:
Rheoliadau cyllidebau awdurdodau addysg lleol, cyllidebau ysgolion a chyllidebau ysgolion unigol (Cymru) 2003;
Rheoliadau addysg (cynlluniau ariannol awdurdodau addysg lleol) (Cymru) 2004;
Rheoliadau cyfrannau cyllideb ysgolion (Cymru) 2004.
Yr ydym yn bwriadu cyflwyno cyllidebau tair blynedd i ysgolion yn wirfoddol o 2008-09 ymlaen. Bydd yn ofynnol gwneud newidiadau i'r fframwaith hwn yn sgîl y rheoliadau sy'n cyflwyno cyllidebau tair blynedd i ysgolion am y blynyddoedd dilynol yn statudol o dan ddarpariaethau yn Neddf Addysg 2005. Byddwn yn cynnal ymgynghoriad ar unrhyw reoliadau newydd neu ddiwygiedig drafft cyn y cânt eu rhoi gerbron y Cynulliad Cenedlaethol i'w cymeradwyo, a disgwylir i hyn ddigwydd yn ystod 2008.
Yr ydym hefyd yn adolygu rôl fforymau ysgolion ac efallai y bydd angen rheoliadau newydd neu ddiwygiedig i wneud unrhyw newidiadau sy'n deillio o'r gwaith hwnnw.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Mike German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu cynyddu tai fforddiadwy i 6,500 dros y pedair blynedd nesaf? (WAQ50796)
Y Dirprwy Weinidog dros Tai (Jocelyn Davies): Yn ogystal â chynyddu'r gyllideb ar gyfer y rhaglen grant tai cymdeithasol, yr ydym yn disgwyl gweld cynnydd sylweddol o ran y tai fforddiadwy a ddarperir heb unrhyw gymhorthdal cyhoeddus drwy'r system gynllunio a dulliau eraill. Byddwn yn gwneud rhagor o ymyriadau polisi er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa ganllawiau y mae’r Gweinidog yn eu cynhyrchu i awdurdodau lleol ar gyfer lleoli plant gyda rhieni maeth sydd â hyfforddiant arbenigol priodol, er enghraifft bod plant dall neu fyddar yn cael eu lleoli gyda rhieni maeth sydd wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth dall/byddar? (WAQ50789)
Y
Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Gwenda Thomas): Yr ydym wedi llunio amrywiaeth o bolisïau, canllawiau a dulliau o weithredu i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod lleoliadau o safon dda ac yn diwallu anghenion penodol plant.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Fframwaith ar gyfer asesu plant mewn angen a'u teuluoedd a chanllawiau arfer cysylltiedig ar asesu anghenion plant anabl.
Canllawiau statudol ar ofal cymdeithasol i blant ac oedolion sy'n fyddar ac yn ddall (Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10/01). Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gadw cofnod o bobl sy'n fyddar ac yn ddall yn eu hardal; sicrhau bod pobl a hyfforddwyd yn benodol yn cynnal asesiadau a bod pobl sy'n fyddar ac yn ddall yn gallu cael gafael ar weithwyr cymorth un-i-un a hyfforddwyd yn benodol, os aseswyd bod angen cymorth o'r fath. At hynny, mae'n rhaid i un uwch reolwr gynnwys cyfrifoldeb cyffredinol am wasanaethau byddar a dall yn ei gyfrifoldebau/chyfrifoldebau.
Camau Allweddol Craidd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Blant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth er mwyn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol a rhieni/gofalwyr plant anabl gan gynnwys gofalwyr maeth yn cael hyfforddiant a gwybodaeth briodol.
Pecyn cymorth i helpu ymarferwyr sy'n gyfrifol am asesu angen a darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sy'n fyddar ac yn ddall yn ogystal â'u teuluoedd. Bydd hyn o werth uniongyrchol i'r rheini sy'n gweithio neu'n byw gyda phlant a phobl ifanc sy'n fyddar ac yn ddall neu sy'n gofalu amdanynt, gan gynnwys gofalwyr maeth.
Rheoliadau a Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Maethu, sy'n pwysleisio'r angen i blant gael eu rhoi mewn lleoliadau gofal maeth sy'n gallu diwallu anghenion asesedig y plentyn.
Adnodd Cymorth comisiynu'r Plant; cronfa ddata o leoliadau traws-sector ledled Cymru i helpu awdurdodau lleol i drefnu lleoliadau er mwyn diwallu anghenion yn well, gan gynnwys gofal maeth.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddar am y grŵp gorchwyl a gorffen ffermio cynaliadwy a’r amgylchedd? (WAQ50762)
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Cwblhaodd y grŵp annibynnol Ffermio ac Amgylchedd Cynaliadwy: Camu Ymlaen at 2020 ei waith drwy gyflwyno adroddiad i mi ar 11 Medi. Bwriadaf ymgynghori'n gynnar y flwyddyn nesaf â phobl ym maes ffermio a chefn gwlad ehangach ar yr amlinelliad o strategaeth well a diwygiedig, gan nodi cyfeiriad y diwydiant amaethyddol ar gyfer y dyfodol. Y nod yw sicrhau bod y strategaeth ar waith erbyn haf 2008.
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Yn dilyn y cyhoeddiad gan Gomisiynydd Dimas ei fod yn bwriadu gwrthod caniatáu tyfu a masnacheiddio amrywiadau indrawn GM BT11 a 1507, am resymau gwyddonol a rhagofalus, a wnaiff y Gweinidog ysgrifennu at Gomisiynydd Dimas i fynegi cefnogaeth Awdurdod Cymwys Tiriogaethol Cymru? (WAQ50767)
Elin Jones: Yr wyf yn ymwybodol o bryderon y Comisiynydd Dimas ac felly yr wyf wedi gofyn i'r Pwyllgor Cynghori ar Ollyngiadau i'r Amgylchedd am gyngor ar y gwaith ymchwil sy'n ymwneud â'r posibilrwydd y gallai'r indrawn hwn sydd ag ymwrthedd i bryfed niweidio'r amgylchedd ac ecosystemau dyfrol. ACRE yw corff ymgynghorol gwyddonol annibynnol Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig ar y risg i iechyd pobl a'r amgylchedd sy'n deillio o farchnata organebau a addaswyd yn enetig. Deallaf nad yw'r llinellau indrawn hyn yn addas i'w hamaethu yng Nghymru.