12/09/2007 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd
i'w hateb ar 12 Medi 2007

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dynodir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa is-adrannau eraill y Cynulliad y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n bwriadu eu hadleoli i’r Gogledd, i’r Gorllewin ac i’r Cymoedd. (WAQ50351) Gofyn i'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw’r dyddiad targed ar gyfer rhoi Strategaeth Swyddi Gwyrdd ar gyfer Cymru gyfan ar waith. (WAQ50350) Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o gyllid ychwanegol y mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu’i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. (WAQ50352) Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa welliannau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu’u gwneud i’r cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd rhwng y Gogledd a'r De a faint o arian y mae’n bwriadau’i ddyrannu i sicrhau’r gwelliannau hyn. (WAQ50353) Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o arian ychwanegol y mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu’i ddarparu ar gyfer y rhaglen Cefnogi Pobl. (WAQ50346) Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o arian ychwanegol y mae Llywodraeth y Cynulliad yn cynnig ei ddyrannu ar gyfer tai cymdeithasol. (WAQ50347) Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o arian y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi’i ddyrannu ar gyfer grantiau i’r rhai sy'n prynu tai am y tro cyntaf. (WAQ50348) Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf o ran pryd caiff penderfyniad ei wneud ar alw ceisiadau i mewn ar gyfer y safle mart arfaethedig ym Mryngwyn, Sir Fynwy. (WAQ50354) Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Peter Black (Gorllewin De Cymru): Beth yw’r dyddiad targed ar gyfer rhoi strategaeth ar waith i fynd i’r afael â throseddau casineb. (WAQ50344) Peter Black (Gorllewin De Cymru): Beth yw’r dyddiad targed ar gyfer gweithredu strategaeth lleihau camddefnydd alcohol i Gymru gyfan. (WAQ50345) Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A yw’r Gweinidog yn bwriadu caniatáu i’r cyhoedd wneud sylwadau i groesholi tystiolaeth a gyflwynir mewn tribiwnlysoedd sy’n ymchwilio i ymddygiad Llywodraeth Leol. (WAQ50349) Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatgan a oes bwriad i gynyddu’r arian sydd ar gael i drin dirywiad macwlaidd yng Nghymru. (WAQ50356) Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatgan nifer y bobl yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis o ddirywiad macwlaidd cyfnod cynnar ac y gwrthodir mynediad iddynt i therapïau sy’n gweithio’n erbyn ffactor twf endothelaidd fasgwlaidd. (WAQ50357) Gofyn i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i ddod o hyd i gydbwysedd rhwng pysgotwyr lleol a diogelu bywyd morol o amgylch Ynys Sgomer, Sir Benfro. (WAQ50355) Andrew RT Davies (Canol De Cymru): O’r ceisiadau newydd ar gyfer y cynllun Tir Gofal a wnaeth cais i ymuno yn ystod y cyfnod cais diwethaf, faint ohonynt y cynigiwyd cytundeb Tir Gofal iddynt. (WAQ50358) Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl deiliad cytundeb Tir Gofal a dalwyd erbyn y dyddiad dyledus yn ystod y deuddeng mis diwethaf. (WAQ50359) Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi sicrhad bod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ddigon o arian yng nghyllideb Tir Gofal i gyflawni pob cytundeb presennol. (WAQ50362) Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw amcangyfrifon ar gyfer nifer y twristiaid rhyngwladol a wnaeth ymweld â Chymru ym mhob blwyddyn ers 1999. (WAQ50360) Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ei wario ar hyrwyddo Cymru dramor ym mhob blwyddyn ers 1999. (WAQ50361)