Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 6 Chwefror 2013 i’w hateb ar 13 Chwefror 2013
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad i wella’r cysylltiadau rhwng Cymru a Phatagonia. (WAQ62197)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Ers i’r Prif Weinidog gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn hybu cysylltiadau awyr rhwng Tsieina a Chaerdydd, a wnaiff ddarparu manylion am unrhyw gyfarfodydd neu ohebiaeth ysgrifenedig y mae ef neu Lywodraeth Cymru wedi’u cael ynghylch sefydlu’r cyswllt awyr hwn. (WAQ62228)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Phatagonia i hybu cyfleoedd i dwristiaid o’r Ariannin a Chile i Gymru. (WAQ62198)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu potensial twristiaeth lleoliadau ffilmiau a rhaglenni teledu yng Nghymru. (WAQ62199)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am bob cynhadledd ac arddangosfa twristiaeth yn 2013 lle bydd gan Croeso Cymru gynrychiolaeth swyddogol. (WAQ62200)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ62070, a wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr fanwl o’r cyfarfodydd y mae wedi’u cael gydag Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau Llywodraeth y DU ers dechrau'r Pedwerydd Cynulliad, gan ddarparu dyddiad a lleoliad pob cyfarfod a phwy oedd yn bresennol. (WAQ62218)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dyddiad ar gyfer cyhoeddi’r adolygiad o ryddhad ardrethi busnes i elusennau. (WAQ62226)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn eich ymateb i NDM5147 yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Ionawr 2013, pan ddywedasoch ynghylch Cyllid Cymru bod “70% o’r staff buddsoddi yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru”, a allwch egluro nifer y staff y mae’r ffigur hwn yn ei chynrychioli a rhoi manylion cyfrifoldebau’r 30% arall. (WAQ62230)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn eich ymateb i NDM5147 yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Ionawr 2013, pan ddywedasoch “mae’n bwysig hefyd inni ystyried rhinweddau’r holl gynigion a gyflwynir ger ein bron, gan bob plaid, ynglyn â sut y gallwn helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru”, a allwch yn awr roi manylion eich ymateb i gynigion y Ceidwadwyr Cymreig a amlinellir yn ‘Buddsoddi Cymru’, gan gynnwys pa feysydd penodol o rinweddau y byddech yn bwriadu eu trafod ymhellach. (WAQ62229)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Eluned Parrott (Canol De Cymru): O ba linell yn y gyllideb y daeth y grant o £20,000 i gynnal gwyl Gymraeg Tafwyl Caerdydd, a gyhoeddwyd ar 6 Chwefror 2013, wythnos ar ôl i Gyngor Caerdydd gyhoeddi ei fod yn torri’r grant y mae’n ei ddarparu. (WAQ62187)
Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa ganran o'r garfan o bobl ifanc 16-18 oed a oedd wedi ymgeisio am Safon Uwch ac UG yn ystod pob un o'r deng mlynedd diwethaf mewn a) bioleg b) cemeg c) mathemateg a d) ffiseg oedd yn ferched. (WAQ62193)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yn dilyn y dystiolaeth a roddodd CBAC i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc heddiw, pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gydag Ofqual ynghylch dyfarnu TGAU Saesneg ar gyfer 2013. (WAQ62195)W
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddyrannu i gynnal ‘Y Gynhadledd Fawr’ a pha ffrydiau ariannu y bydd y penderfyniad hwnnw’n effeithio arnynt. (WAQ62201)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa weithgareddau cyfredol a fydd yn cael eu haddasu neu eu torri drwy symud cyllid ar gyfer 'Y Gynhadledd Fawr'. (WAQ62202)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gyfarfodydd y mae’r Gweinidog wedi’u cael yn ystod y Pedwerydd Cynulliad ynghylch sefydlu ‘Y Gynhadledd Fawr’. (WAQ62203)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r canlyniadau y mae’n gobeithio y bydd yn cael eu cyflawni i’r Gymraeg o ganlyniad i gynnal ‘Y Gynhadledd Fawr’. (WAQ62204)
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd denu myfyrwyr rhyngwladol i brifysgolion yng Nghymru. (WAQ62210)
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pa ddarpariaethau y mae’n bwriadu eu rhoi ar waith i annog myfyrwyr rhyngwladol i fynychu prifysgolion yng Nghymru. (WAQ62211)
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pa ddarpariaethau y mae’n bwriadu eu rhoi ar waith i roi cefnogaeth well i fyfyrwyr rhyngwladol sy’n mynychu prifysgolion yng Nghymru. (WAQ62212)
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pa ddarpariaethau sydd ar waith i fonitro profiadau myfyrwyr rhyngwladol sy’n mynychu prifysgolion yng Nghymru. (WAQ62213)
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd enw da cadarnhaol ar gyfer prifysgolion yng Nghymru ymysg cymunedau rhyngwladol. (WAQ62214)
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan sut y mae’n gweithio gyda phrifysgolion i ddileu hiliaeth tuag at fyfyrwyr rhyngwladol sy’n mynychu prifysgolion yng Nghymru. (WAQ62216)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gysylltiadau a fu rhyngddo ef a Llywodraeth y DU ynghylch ei chynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd anifeiliaid mewn syrcasau. (WAQ62192)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn yr ateb i WAQ61362, a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad wedi’i ddiweddaru o’r holl daliadau a wnaed, hyd yn hyn, i fusnesau ac i sefydliadau sy’n ymwneud â chreu Cyfoeth Naturiol Cymru. (WAQ62194)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch camau gweithredu diweddar y Grwp Cynghori Allanol ar Drechu Tlodi sydd â nodau penodol i leihau tlodi tanwydd. (WAQ62219)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ61952, beth oedd y targed ar gyfer Cam Un Arbed i gysylltu eiddo i’r prif gyflenwad nwy a gosod systemau gwres canolog llawn. (WAQ62220)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ61952, beth oedd y targed i Nyth ar gyfer dod â chartrefi gwledig ar y rhwydwaith nwy. (WAQ62221)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ61952, beth yw targed 2013 Nyth ar gyfer dod â chartrefi gwledig ar y rhwydwaith nwy. (WAQ62222)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nifer y cartrefi a gafodd fesurau effeithlonrwydd ynni ddiwedd mis Rhagfyr 2012 fel y cyfeirir atynt yn WAQ61645. (WAQ62223)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi iechyd anifeiliaid Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gallu ffermwr i ailstocio ar ôl achos o TB buchol, gan gyfeirio’n benodol at reoliadau iechyd anifeiliaid newydd o 1 Ionawr 2012 ymlaen yng nghyswllt ailstocio. (WAQ62227)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd y mae’r Gweinidog yn bwriadu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am ddatblygiadau ynghylch defnyddio Pegvisomant yng Nghymru. (WAQ62188)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau beth oedd argymhellion Gweithgor Dal Anadl Wrth Gysgu Cymru Gyfan ar gyfer safonau clinigol sylfaenol ar gyfer dal anadl wrth gysgu yng Nghymru, a pha gynnydd sydd wedi cael ei wneud i gynllunio ar gyfer gwasanaethau cysgu gwell. (WAQ62196)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal ynghylch ‘EVAR-stent’ neu drwsio aortig endofasgwlaidd, ac a wnaiff gadarnhau a oes cynlluniau i ddarparu’r driniaeth hon ar GIG Cymru. (WAQ62224)
Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch cynlluniau ar gyfer pont Dyfi, Machynlleth. (WAQ62191)
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pa waith y mae wedi’i wneud gyda Chwaraeon Cymru a chynghorau lleol i greu etifeddiaeth chwaraeon yng Nghymru yn dilyn llwyddiant y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. (WAQ62205)
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan faint o gyfarfodydd y mae wedi’u cael gyda Chwaraeon Cymru i lunio cynllun i helpu cynghorau lleol i greu etifeddiaeth chwaraeon yng Nghymru yn dilyn llwyddiant y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. (WAQ62206)
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan sut y mae’n bwriadu cynyddu cyfraddau cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol a sefydlu cydweithrediad gwirioneddol gyda chynghorau lleol er mwyn sicrhau bod buddsoddiad mewn chwaraeon yn arwain at gyfleoedd cynaliadwy ac o ansawdd i gymryd rhan mewn chwaraeon. (WAQ62207)
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan faint o arian a fuddsoddir mewn chwaraeon i helpu cynghorau lleol i gynyddu cyfraddau cyfranogiad mewn chwaraeon. (WAQ62208)
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan sut y bydd yr arian y mae’n ei fuddsoddi mewn chwaraeon yn helpu cynghorau lleol i gynyddu cyfraddau cyfranogiad mewn chwaraeon. (WAQ62209)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Mewn ymateb i’r ateb a roddwyd i WAQ62003, a wnaiff y Gweinidog ddarparu amserlen fanwl ar gyfer pryd y ceir y cyngor gan swyddogion a sut y mae’n bwriadu symud ymlaen. (WAQ62189)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ynghylch pont Dyfi, Machynlleth yn ystod y 24 mis diwethaf, a pha gyfarfodydd sydd ar y gweill i drafod yr un mater dros y 12 mis nesaf. (WAQ62190)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gyngor y mae'r Gweinidog wedi’i roi i awdurdodau lleol ar hybu ac annog trigolion ardaloedd clwstwr Cymunedau yn Gyntaf i gymryd rhan. (WAQ62217)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fyddai cyflwyno mynychu o bell mewn cyfarfodydd cyngor lleol hefyd yn galluogi aelodau i bleidleisio a gwneud cyfraniadau a gofnodir, ac a wnaiff hefyd gadarnhau a fyddai cyflwyno mynychu o bell yn gofyn am unrhyw newid deddfwriaethol ar lefel y Cynulliad Cenedlaethol. (WAQ62225)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol
Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i ymgynghoriad Gweinyddiaeth Cyfiawnder y DU ar ‘Leihau niferoedd a chostau hawliadau yn sgîl anafiadau atchwipio’. (WAQ62215)