Atebion a roddwyd i Aelodau ar 13 Mehefin 2007
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Cynnwys Cwestiynau i’r Prif Weinidog Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig
Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu rhestr o’r ymrwymiadau a oedd ganddo ddydd Mawrth 5 Mehefin 2007, ynghyd â’r amseroedd a drefnwyd ar gyfer yr ymrwymiadau hyn? (WAQ50023) Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Yn ogystal â nifer o gyfweliadau â’r cyfryngau, roedd pob un o’m hapwyntiadau ar y diwrnod yn ymwneud â’m rôl yn y seremoni i agor y trydydd Cynulliad gan Ei Mawrhydi y Frenhines.Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Alun Ffred Jones (Caernarfon): A wnaiff y Gweinidog egluro a ellir rhoi mannau parcio preswyl ar gyfer pobl anabl ar ffyrdd sydd ag un llinell felen? (WAQ50037) Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Brian Gibbons): Bydd. Mae’r llinell felen yn cael ei defnyddio i wahardd pobl rhag aros am gyfnod penodol o fewn diwrnod 24 awr (e.e. yr amseroedd prysuraf). Os mai tu allan i’r oriau hynny yn unig y mae modd defnyddio’r man parcio i’r anabl, byddai’r llinell felen yn rhedeg drwy’r man parcio hwnnw. Os oes modd defnyddio’r man parcio 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, byddai’r llinell felen yn gorffen y naill ochr i’r man parcio.Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Faint o ymarferwyr nyrsio cymwysedig sydd yng Nghymru at ei gilydd ac fesul ardal? (WAQ50020) Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Nid oes gwybodaeth ar gael yn ganolog am nifer yr ymarferwyr nyrsio cymwysedig sydd yng Nghymru. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Faint o nyrsys practis sydd yng Nghymru at ei gilydd ac fesul ardal? (WAQ 50021) Edwina Hart: Nid oes gwybodaeth ar gael yn ganolog am nifer y nyrsys practis sydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Mike German (De Ddwyrain Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi sylwadau ar oblygiadau cost gohirio’r newidiadau ar lefel ysbytai cymunedol? (WAQ50031) Mike German (De Ddwyrain Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi sylwadau ynghylch goblygiadau cost y penderfyniad i beidio â gweithredu’r newidiadau y cytunwyd arnynt mewn gwasanaethau Ysbytai Cyffredinol Uniongyrchol oni bai a nes bod gwasanaethau cymunedol cysylltiedig ar waith? (WAQ50035) Edwina Hart: Mae’r gost o gyflunio’r gwasanaethau presennol yn rhan o gostau cyfredol y GIG. Mae’r trefniadau ailgyflunio arfaethedig wedi’u dylunio i wella gwasanaethau ac nid i arbed arian. Helen Mary Jones (Llanelli): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog ynghylch cael Nyrs Glinigol Arbenigol ar gyfer Clefyd Huntingdon i’r dyfodol, ac a wnaiff hi ddatganiad am yr argaeledd cyfredol? (WAQ50041) Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi ei rhesymau dros dynnu’r cyllid ar gyfer Clinig Rheoli Clefyd Huntingdon yn ei ôl? (WAQ50042) Edwina Hart: Nid oes cyllid wedi’i dynnu’n ôl. Am flynyddoedd lawer mae’r ganolfan wedi darparu gwasanaethau i ofalu am gleifion gyda Chlefyd Huntington a’u teuluoedd drwy’r Nyrs Glinigol Arbenigol sy’n rhan o’r Gwasanaeth Geneteg Feddygol. Nid oedd yn ymarferol parhau â hyn oherwydd bod gan y Gwasanaeth Geneteg Feddygol rôl benodol iawn i’w chwarae o ran rhoi diagnosis i gleifion a’u cynghori am gyflyrau etifeddol. Nid yw rôl a hyfforddiant y Gwasanaeth yn cynnwys gofalu am gleifion unigol. Felly, bydd swydd y Nyrs Glinigol Arbenigol - sy’n wag ar hyn o bryd - yn cael ei symud o’r Gwasanaeth Geneteg Feddygol iddi gael canolbwyntio ar ofalu am gleifion. Mae trafodaethau’n cael eu cynnal rhwng Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd er mwyn dod o hyd i’r lle gorau ar gyfer y swydd hon.Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau ar yr incwm a gynhyrchir o gartrefi gwyliau? (WAQ50005) Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Mae’n rhaid i gartrefi gwyliau nad ydynt ar y rhestr ardrethu ac sy’n cael eu defnyddio’n bennaf gan eu perchnogion dalu’r dreth gyngor, felly nid yw’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes wedi effeithio o gwbl ar yr incwm o’r cartrefi hyn. O ran eiddo hunanarlwyo sy’n cael ei osod yn fasnachol ac sy’n gorfod talu ardrethi busnes, hoffwn dynnu eich sylw at fy Natganiad i’r Cynulliad ar 12 Mehefin 2007.Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw daliadau Tir Gofal hwyr, a pha esboniad a roddwyd i’r ffermwyr yr effeithiwyd arnynt? (WAQ50007) Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig (Jane Davidson): Mae unrhyw oedi o ran talu Tir Gofal wedi’i achosi gan ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i wirio ceisiadau fel sy’n ofynnol gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae hyn yn cynnwys croeswirio’r ceisiadau â chronfa ddata Parseli Tir Llywodraeth y Cynulliad a’r wybodaeth yn y Ffurflenni Cais Sengl blynyddol er mwyn sicrhau nad yw ffermwyr yn cael eu talu ddwywaith, nad yw’r tir yn cael ei ddefnyddio’n amhriodol a bod amodau’r cynllun yn cael eu bodloni. Mae unrhyw resymau eraill dros yr oedi fel arfer o ganlyniad i adolygiad pum mlynedd deiliad y cytundeb, lle mae’n rhaid prosesu mapiau a manylion newydd i’w hymgorffori yn y system groeswirio. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru bellach mewn sefyllfa i gysylltu â’r deiliaid hyn er mwyn hwyluso’u taliadau. Hysbysir ymgeiswyr yn unigol am eu taliadau ac os yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn codi unrhyw gwestiynau, cynghorir ymgeiswyr i’w hateb yn syth. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatgan a dderbyniwyd unrhyw aelodau newydd i’r cynllun Tir Gofal, a pha esboniad a roddwyd i ffermwyr a rwystrwyd rhag ymuno â’r cynllun? (WAQ50008) Jane Davidson: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd pellach er mwyn galluogi’r gymuned ffermio i gyfrannu at yr agenda ehangach ar gyfer datblygu cynaliadwy, gan gynnwys cyflawni’r targedau bioamrywiaeth a gwella mynediad y cyhoedd at gefn gwlad. Cafwyd tua 1,400 o geisiadau i ymuno â Chynllun Tir Gofal fel ymateb i’r broses ymgeisio fis Tachwedd 2006. Mae’r ffordd ymlaen yn dibynnu ar y paratoadau terfynol ar gyfer Cynllun Datblygu Gwledig 2007-2013, un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd disgwyl i’r Cynllun gael ei gwblhau yn yr wythnosau nesaf a bydd ffermwyr yn cael eu hysbysu am eu ceisiadau ar ôl hynny. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog nodi lefel y modiwleiddio Ewropeaidd ar gyfer pob blwyddyn hyd at 2013? (WAQ50009) Jane Davidson: Mae erthygl 10 o Reoliad 1782/2003 y Cyngor yn darparu mai 5 y cant y flwyddyn fydd y gyfradd fodiwleiddio orfodol bob blwyddyn rhwng 2007-2012. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog nodi lefel y modiwleiddio cenedlaethol ar gyfer pob blwyddyn hyd at 2013? (WAQ50010) Jane Davidson: Yn dilyn fy nhrafodaethau diweddar â chynrychiolwyr y Gwrthbleidiau, rwyf wedi penderfynu mai dyma fydd y cyfraddau modiwleiddio gwirfoddol ar gyfer Cynllun Datblygu Gwledig 2007-2012:Y cant | 2007 | 2008 | 2009 | 2010 | 2011 | 2012 |
0 | 2.50 | 4.20 | 5.80 | 6.50 | 6.50 |