19/11/2009 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 12 Tachwedd 2009 i’w hateb ar 19 Tachwedd 2009

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

David Melding (Canol De Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch codi nifer y lleoliadau parhaol yng Nghymru ar gyfer Canolfannau Profion Beiciau Modur yr Asiantaeth Safonau Gyrru. (WAQ55141)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r arbedion posibl i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, petai argymhellion Adroddiad Panel Arbenigol Comisiwn Cynghorwyr Cymru yn cael eu rhoi ar waith. (WAQ55137) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Er mis Ionawr 2009, faint o ddeiliaid cytundebau Tir Gofal a ymunodd â’r cynllun ar gyfer 2006-10 sydd wedi cael gwaith cyfalaf yn eu rhaglen yn: a) Canolbarth Cymru a b) Gorllewin Cymru. (WAQ55138)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint o swyddogion maes Tir Gofal sydd ar hyn o bryd yn: a) Canolbarth Cymru a b) Gorllewin Cymru. (WAQ55139)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint o ddeiliaid cytundebau Tir Gofal sydd ar hyn o bryd yn: a) Canolbarth Cymru a b) Gorllewin Cymru. (WAQ55140)