Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Ebrill 2008 i’w hateb ar 23 Ebrill 2008
R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn
i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gadw cyfrif am asesiadau gofal ar gyfer pob sir yng Nghymru. (WAQ51628)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch triniaeth Ysgogi yn Nwfn yr Ymennydd i ddioddefwyr clefyd Parkinson, ac a all y Gweinidog hefyd gadarnhau safbwynt Comisiwn Iechyd Cymru. (WAQ51629)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd gwelyau yn yr Uned Therapi Dwys yn Ysbyty Nevill Hall. (WAQ51630)