23/07/2015 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 16/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/07/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Gorffennaf 2015 i'w hateb ar 23 Gorffennaf 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny.  Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu faint o arian a wariodd Llywodraeth Cymru ar farchnata a chysylltiadau cyhoeddus mewn perthynas â digwyddiadau 'Cyfarfod Carwyn'? (WAQ69002)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Prif Weinidog nodi a fydd angen unrhyw lety dros nos ar gyfer staff Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â digwyddiadau 'Cyfarfod Carwyn'? (WAQ69003)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Prif Weinidog nodi a fydd ceir Gweinidogol yn cael eu defnyddio ar gyfer teithio i ddigwyddiadau 'Cyfarfod Carwyn' ac, os felly, beth fydd cost hyn? (WAQ69004)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Prif Weinidog nodi faint o staff Llywodraeth Cymru sydd wedi'u dyrannu i ddigwyddiadau 'Cyfarfod Carwyn' a chyflogau'r staff hynny? (WAQ69005)

Derbyniwyd ateb ar 29 Gorffennaf 2015

Prif Weinidog Cymru (Carwyn Jones):  There has been no additional spend on marketing and PR in relation to these events.  In house PR and marketing resources have been used for media relations, production of leaflets/posters and our own digital channels have been used to promote these events. 

Two staff will require overnight accommodation for one night for the Rhyl event.  No other requirements are currently known.  As with most engagements, an official car will be used.  It is not possible to calculate an accurate cost for individual journeys.  No staff have been allocated specifically to Carwyn Connect, although some staff time has been used in organising the events.

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog egluro pam nad oes gofyniad ym Mil yr Amgylchedd (Cymru) i Weinidogion Cymru ystyried adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol o dan Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol wrth baratoi Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol? (WAQ68971)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog esbonio pam nad yw'r Bil yn cynnwys amserlen ar gyfer datblygu a chyhoeddi datganiadau ardal? (WAQ68972)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a yw'r Gweinidog yn fodlon bod y darpariaethau ar ddatganiadau ardal yn darparu'r wybodaeth bellach y gofynnodd rhanddeiliaid amdani yn eu hymatebion i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn? (WAQ68973)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog egluro pam fo adran 5 yn diwygio pwrpas Cyfoeth Naturiol Cymru i 'ceisio cyflawni' yn hytrach na cheisio sicrhau rheoli cynaliadwy? (WAQ68974)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog egluro pam fo'r Bil yn diwygio adran 5 o'r Gorchymyn Sefydlu i'w gwneud yn ofynnol bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried canllawiau Llywodraeth Cymru wrth arfer ei 'diben cyffredinol' yn hytrach na'i swyddogaethau? (WAQ68975)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog egluro pam fo angen pŵer ehangach ar Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud cytundebau rheoli tir gyda pherchnogion tir? (WAQ68976)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog egluro sut y mae'r gofyniad i adrodd ar bolisïau i ddarparu cyllidebau carbon o dan adran 39 yn ymwneud ag adran 9(2) sy'n gofyn bod Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol yn nodi pa gamau y mae angen eu cymryd mewn perthynas â newid hinsawdd? (WAQ68977)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Adran 42 o Fil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog gadarnhau beth fydd yr amserlen ar gyfer y datganiad yn amlinellu cynigion i wneud iawn am allyriadau sy'n fwy na'r gyllideb garbon ym mlwyddyn olaf cyllideb garbon? (WAQ68978)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog egluro pam nad oes darpariaethau wedi cael eu cynnwys yn y Bil ynghylch addasu ar gyfer newid hinsawdd?    (WAQ68979)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), pa ystyriaeth a roddwyd i osod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gyfrannu at dargedau lleihau allyriadau i fynd i'r afael â newid hinsawdd? (WAQ68980)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog amlinellu'r rhesymau pam nad yw'r adolygiad annibynnol o'r tâl am fagiau siopa untro wedi cael ei gwblhau mewn pryd i fwydo i mewn i'r gwaith o graffu ar y Bil? (WAQ68981)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r darpariaethau yn y Bil i gyfeirio'r enillion net o'r tâl presennol am fagiau siopa untro at ddibenion elusennol? (WAQ68982)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran adran 59 o Fil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog esbonio pam nad yw'n ofynnol bod y rheoliadau'n nodi'r gofynion o ran cadw cofnodion ar gyfer gwerthwyr? (WAQ68983)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog ystyried cadw'r eithriad o ran cyhoeddi cofnodion ar gyfer manwerthwyr nad ydynt yn drethadwy sy'n gwerthu llai na 1,000 o fagiau y flwyddyn? (WAQ68984)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog egluro a fyddai disgwyl bod awdurdodau lleol yn parhau i weinyddu unrhyw reoliadau newydd ar fagiau siopa untro a gyflwynir o dan y Bil hwn ac, os felly, a yw wedi ystyried darparu adnoddau ychwanegol i awdurdodau lleol? (WAQ68985)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran adran 66 o Fil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog egluro a yw'n bwriadu defnyddio'r pwerau i bennu safonau gwahanu uwch neu newydd ar gyfer papur, gwydr, metel a phlastig? (WAQ68986)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog egluro a fyddai unrhyw ofynion gwahanu newydd a gyflwynir yn ddarostyngedig i'r un profion a nodir ar hyn o bryd yn  Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 o ran bod yn angenrheidiol; ac yn ymarferol o safbwynt technegol, amgylcheddol ac economaidd? (WAQ68987)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog nodi a fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi codau ymarfer neu ganllawiau ar gyfer unrhyw ofynion newydd a gyflwynir? (WAQ68988)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog nodi pa ystyriaeth sydd wedi'i roi i'r goblygiadau ymarferol o'i gwneud yn ofynnol bod safleoedd annomestig yn cyflwyno eu gwastraff i'w gasglu ar wahân? (WAQ68989)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa fesurau y gellid eu rhoi ar waith i fusnesau bach a allai wynebu cynnydd mewn costau? (WAQ68990)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa ystyriaeth sydd wedi'i roi i sut y gallai'r darpariaethau effeithio ar allu cymharol busnesau o Gymru i gystadlu? (WAQ68991)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog nodi sut y byddai'r gwaharddiad ar adeiladau annomestig yn gwaredu gwastraff bwyd i garthffosydd yn cael ei orfodi a phwy fyddai'n gyfrifol am gamau gorfodi? (WAQ68992)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog nodi sut y byddai gwaharddiad ar ddeunyddiau penodol o gyfleusterau gwastraff o ynni penodol yn cael ei orfodi a'i fonitro? (WAQ68993)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog egluro pa brosesau asesu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i sicrhau mai gwaharddiad ar anfon rhai deunyddiau i'w losgi yw'r opsiwn mwyaf effeithiol o safbwynt amgylcheddol? (WAQ68994)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd unrhyw incwm ychwanegol a geir gan Cyfoeth Naturiol Cymru drwy godi ffioedd ychwanegol yn cael ei gadw er mwyn darparu gwasanaethau trwyddedu morol i ddefnyddwyr? (WAQ68995)

Russell George (Sir Drefaldwyn): O ran Bil yr Amgylchedd (Cymru), a wnaiff y Gweinidog egluro'r amserlen ar gyfer cyflwyno trefn codi tâl newydd ar gyfer trwyddedu morol? (WAQ68996)

Derbyniwyd ateb ar 29 Gorffennaf 2015

Gweinidog Cyfoeth Naturiol (Carl Sargeant):

The Environment Bill is currently undergoing scrutiny by the Assembly and the questions tabled follow those being raised within the context of the Bill's scrutiny by the Committee. The Chair of the Committee has written seeking further information and I will be addressing the issues raised in my response in line with the Committee's deadline.  I will therefore address the issues raised by the Member within my response to the Committee as part of the Assembly's scrutiny process.  I will also be providing further evidence on the Bill when I attend the Environment and Sustainability Committee on 16 September.

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A fyddai Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig dros 50 hectar yn derbyn taliad sylfaenol hefyd ac, os felly, beth yw cyfanswm yr adnoddau sy'n cael eu cyfeirio at safleoedd o'r fath? (WAQ68997)

Derbyniwyd ateb ar 29 Gorffennaf 2015

Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd (Rebecca Evans): Basic Payment Scheme (BPS) payments are made to all eligible land where the claimant holds sufficient BPS entitlements whether or not it has SSSI designation. BPS payments are not due to be calculated until early in the EC payment period (December 2015-June2016) so I am unable to provide any data on such payments at this stage.

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth yw effaith ariannol eich cyhoeddiad polisi ar y Cynllun Taliad Sylfaenol PAC ar y sector llaeth yng Nghymru? (WAQ68998)

Derbyniwyd ateb ar 29 Gorffennaf 2015

Rebecca Evans: The total impact on the dairy sector of introducing a flat payment rate by 2019, coupled with a redistributive payment for the first 54 hectares, will not be known until all 2015 claims have been processed.

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae iawndal ariannol yn eich Cynllun Taliad Sylfaenol PAC yn adlewyrchu capasiti cynhyrchu'r tir? (WAQ69001)

Derbyniwyd ateb ar 29 Gorffennaf 2015

Rebecca Evans: I will write to you and a copy of the letter will b put on the internet.

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog roi manylion y golled ariannol fwyaf, naill ai o ran tir neu eiddo, y mae Llywodraeth Cymru wedi'i phrofi ers 1999? (WAQ68997)

Derbyniwyd ateb ar 24 Gorffennaf 2015

Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (Jane Hutt):

Welsh Government recognises a financial loss on disposal of either land or property when the receipts are less than the net value of the asset in our accounts.

A review by officials of accounting records has shown that there are no financial losses recorded in respect of the disposal of land or property by the Welsh Government since 2010. These accounting records are only available from 2010 because regulations require their retention for a period of six years and no longer.

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Tasglu Cymru Gyfan ar gyfer lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru? (WAQ69000)

Derbyniwyd ateb ar 29 Gorffennaf 2015

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford): My officials have been working with the Association of Directors of Social Services Cymru (ADSS Cymru) to design and develop a national approach for looked-after children. A multi-agency leadership group will be set up next month to oversee work to reduce numbers and ensure strategies are in place to improve outcomes. The first stage of this work will be completed by March 2016.