Atebion a roddwyd i Aelodau ar 26 Mehefin 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno
yn Gymraeg.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion nifer y derbyniadau ysbyty a oedd yn gysylltiedig â a) deintyddiaeth, a b) problemau deintyddol ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ51911)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae’r ystadegau ar dderbyniadau’r ysbyty o 1999/00 i 2006/07 ar gael ar wefan Gwybodaeth ac Ystadegau Atebion Iechyd Cymru yn: http://www.wales.nhs.uk/sites3/w-page.cfm?orgid=527&pid=25657
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi manylion oed cyfartalog Meddyg Teulu yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ51912)
Edwina
Hart: Rh
oddir y data ar oedran cyfartalog Meddygon Teulu yng Nghymru yn y tabl canlynol ac mae’n ymwneud ag ymarferwyr mewn swyddi ar 30 Medi.
Oedran cyfartalog Meddygon Teulu (a)
1999 |
45 |
2000 |
45 |
2001 |
46 |
2002 |
46 |
2003 |
46 |
2004 |
46 |
2005 |
46 |
2006 |
46 |
2007 |
46 |
(a) Pob ymarferwr (heblaw meddygon locwm, Cofrestryddion Ymarfer Cyffredinol a Thaliadau Cadw Meddygon Teulu)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi manylion oed cyfartalog Bydwraig yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ51913)
Edwina Hart: Rhoddir y manylion yn y tabl canlynol ac mae’n ymwneud yn uniongyrchol â bydwragedd a gyflogir oedd mewn swyddi yn ystod y flwyddyn.
Oedran cyfartalog Bydwragedd
2004 |
45 |
2005 |
45 |
2006 |
44 |
2007 |
44 |
Noder, dim ond o 2004 mae’r data o ran oedran cyfartalog bydwragedd ar gael.