Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 21 Mawrth 2012 i’w hateb ar 28 Mawrth 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r holl sefydliadau a gefnogodd y cynnig swyddogol i ddod â’r Banc Buddsoddi Gwyrdd i Gaerdydd. (WAQ59990)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r holl sefydliadau y cysylltodd Llywodraeth Cymru â nhw i gefnogi’r cynnig i ddod â’r Banc Buddsoddi Gwyrdd i Gaerdydd. (WAQ59991)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A yw’r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi copïau o’r holl ohebiaeth ynghylch y cynnig i ddod â’r Banc Buddsoddi Gwyrdd i Gaerdydd rhwng Llywodraeth Cymru a’r sefydliadau a oedd yn cefnogi’r cynnig. (WAQ59992)