12/11/2013 - Cynigion heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y Dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Tachwedd 2013

NNDM5359 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 11(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, a Rheol Sefydlog 30A.10, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Taliadau gan Gynghorau Plwyf, Cynghorau Cymuned ac Ymddiriedolwyr Siarter) 2013, yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Tachwedd 2013.

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Tachwedd 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.