Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 17 Tachwedd 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 10 Tachwedd 2010
Dadl Fer
NDM4589
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Gwasanaethau Iechyd yn Sir Benfro
NDM4584
Jeff Cuthbert (Caerffili)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi ei ddiolchgarwch am gyfraniad Richard Penn yn ystod yr un mlynedd ar ddeg y mae wedi gwasanaethu’r Cynulliad, yn gyntaf fel y Cynghorydd ar Safonau ac yna fel y Comisiynydd Safonau;
2. O dan adran 1(2) Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, yn penodi Gerard Elias CF yn Gomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y Mesur hwnnw, am gyfnod o chwe blynedd gan ddechrau ar 1 Rhagfyr 2010.
NDM4588
Nick Ramsay (Mynwy)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi â phryder bod llawer o broblemau iechyd y cyhoedd yn dod yn fwy amlwg yng Nghymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ganolbwyntio adnoddau ar fesurau ataliol, er mwyn cyflawni gwell canlyniadau iechyd y cyhoedd.
NDM4590
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder y gallai cyflwyno Glastir arwain at golli parhad gwelliannau amaeth-amgylcheddol a gyflawnwyd gan y cynlluniau Tir Gofal a Tir Cynnal;
2. Yn cydnabod pwysigrwydd Tir Mynydd wrth gynnal hyfywedd ffermio mewn ardaloedd llai ffafriol ac yn mynegi pryder am yr effaith negyddol y byddai colli taliadau Tir Mynydd yn ei chael ar ffermwyr sy’n gweithio yn yr ardaloedd hyn;
3. Yn nodi mai’r unig ffordd y cyflawnir y gwelliannau amgylcheddol y mae’r llywodraeth yn dymuno’u cyflawni drwy Glastir yw os yw’r cynllun yn ddeniadol i dirfeddianwyr a bod ffermwyr yn gallu cymryd rhan ynddo; ac
4. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) gohirio’r dyddiad y bydd Glastir yn dod i rym;
b) adolygu’r meini prawf ar gyfer gwneud cais a chreu ail gylch o geisiadau fel bo mwy o ffermwyr yn gallu manteisio ar y cynllun; ac
c) pennu targed ar gyfer nifer y ffermwyr sy’n ymuno â’r cynllun.
Cynigion a gyflwynwyd ar 02 Tachwedd 2010
NNDM4583
Eleanor Burnham (Gogledd Cymru);
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru);
Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru);
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr).
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod S4C annibynnol yn hanfodol ar gyfer dyfodol darlledu cyhoeddus a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 11 Tachwedd 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4588
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi capasiti iechyd yr amgylchedd yng Nghymru er mwyn i wasanaethau iechyd yr amgylchedd gael y màs critigol er mwyn gallu mynd i'r afael yn iawn â phroblemau presennol a phosibl ym maes iechyd y cyhoedd.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 12 Tachwedd 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4588
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi'r cynnydd yn y disgwyliad oes yng Nghymru sy'n ddangosydd allweddol o welliant yn iechyd y cyhoedd;
2. Yn nodi'r heriau sy'n parhau ym maes iechyd y cyhoedd;
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y trywydd iawn i fodloni ymrwymiad Cymru’n Un ynghylch iechyd y cyhoedd drwy’r strategaeth “Ein Dyfodol Iach”.
Cymru’n Un:
http://wales.gov.uk/about/programmeforgovernment/strategy/publications/onewales/?skip=1&lang=cy
Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, “Ein Dyfodol Iach” drwy’r hyperddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/health/ocmo/healthy/?skip=1&lang=cy
NDM4590
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr hyn sydd wedi’i gyflawni gan y cynlluniau amaeth-amgylcheddol presennol;
2. Yn nodi nad yw’r cynlluniau amaeth-amgylcheddol presennol yn mynd i’r afael â’r heriau yn y dyfodol o ran y newid yn yr hinsawdd, dal carbon a rheoli dwr, fel y nodir yn Archwiliad Iechyd y Polisi Amaethyddol Cyffredin ac nad oeddent wedi cynllunio i fynd i’r afael â hwy;
3. Yn nodi na fydd Glastir yn llawn weithredol tan 2014 ac yn croesawu’r trefniadau trosiannol a roddwyd yn eu lle ar gyfer Tir Cynnal, Tir Gofal a Thir Mynydd ar gyfer 2012 a 2013.
Gellir defnyddio’r ddolen ganlynol i weld yr archwiliad ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin:
http://eur-lex.europa.eu/LexUriServ/LexUriServ.do?uri=OJ:L:2009:030:0016:0016:EN:PDF
2. Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnwys pwynt 4 newydd ac ail-rifo:
Yn cydnabod y perygl os na fydd llawer yn cymryd rhan yn Glastir y gallai hynny arwain at anghofio am dir yr ucheldir ac y bydd hynny'n arwain at effaith gymdeithasol ac amgylcheddol niweidiol.