02/02/2021 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 02/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/02/2021   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021

Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau pan ddaw’r Pwyllgor o'r Senedd Gyfan i ben

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") (30 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19 (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Gweithio mewn Partneriaeth ar gyfer Gwaith Teg Cymru (30 munud)
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Papur Gwyn Ailgydbwyso Gofal a Chymorth (30 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (30 munud)
    • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021
    • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021
  • Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021 (15 munud)
  • Dadl: Cyllideb Ddrafft 2021-2022 (90 munud)
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu a’r Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud)

 

Dydd Mercher 10 Chwefror 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Dadl: Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) (150 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)

 

Busnes y Llywodraeth

  • Dadl: Cyfnod 3 Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) (60 munud)
  • Dadl: Cyfnod 4 Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) (15 munud)

 

 

Dydd Mawrth 23 Chwefror 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19 (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Genhadaeth o ran Cadernid ac Ailadeiladu Economaidd (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Rhaglen Ddatblygu Gwledig ddomestig yn y dyfodol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Effaith Drawsnewidiol Diwygio Cyllid Myfyrwyr (30 munud)
  • Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Yr Economi Sylfaenol (30 munud)
  • Rheoliadau Lefelau Staff Nyrsio (Estyn Sefyllfaoedd) (Cymru) 2021 (15 munud)
  • Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021 (15 munud)
  • Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (15 munud)
  • Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mercher 24 Chwefror 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
  • Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Dadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru (45 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (30 munud)
  • Dadl Fer – David Melding (Canol De Cymru) (30 munud)
  • Dadl Fer – Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 2 Mawrth 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19 (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Tlodi Tanwydd (30 munud)
  • Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (15 munud)
  • Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021 (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-Drin Domestig (15 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (180 munud)

 

Dydd Mercher 3 Mawrth 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i ddiddymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: A ddylid datganoli darlledu (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Ymchwiliad i effaith Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 - Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio (30 munud)
  • Dadl fer – Nick Ramsay (Mynwy) (30 munud)