Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 26 Ionawr 2021
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Diweddariad ar Gymwysterau ar gyfer 2021 (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Cyhoeddi polisi cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg a'i defnydd mewn teuluoedd (30 munud)
- Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (15 munud)
- Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (15 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (30 munud)
- Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021
- Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (60 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil a elwir yn Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a elwir yn Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)
- Dadl: Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2019-2020 (30 munud)
Dydd Mercher 27 Ionawr 2021
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro (15 munud)
- Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (30 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (30 munud)
- Dadl Fer – Laura Ann Jones (Dwyrain De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 2 Chwefror 2021
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â’i chyfrifoldebau
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Adolygiad Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (30 munud)
- Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cynnydd o ran Trethi Datganoledig (30 munud)
- Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (30 munud)
- Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
- Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020
- Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021
- Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021 (15 munud)
Dydd Mercher 3 Chwefror 2021
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Clyw fy nghân: Ymchwiliad i'r diwydiant cerddoriaeth fyw (30 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (30 munud)
- Dadl Fer – Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
- Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") (30 munud)
- Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
- Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021 (15 munud)
- Dadl: Cyllideb Ddrafft 2021-2022 (90 munud)
- Dadl: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu a’r Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud)
Dydd Mercher 10 Chwefror 2021
Busnes y Llywodraeth
- Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
- Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)
- Dadl: Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) (150 munud)
Busnes y Senedd
- Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
- Cwestiynau Amserol (20 munud)
- Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
- Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)
- Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (30 munud)
- Dadl Fer – David Melding (Canol De Cymru) (30 munud)