23/02/2021 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 23/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/02/2021   |   Amser darllen munudau

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 2 Mawrth 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19 (30 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Tlodi Tanwydd (30 munud)
  • Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (15 munud)
  • Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021 (15 munud)
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021 (15 mins)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif. 2) (15 munud)
  • Dadl: Cyfnod 3 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (180 munud)

 

Dydd Mercher 3 Mawrth 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Cynnig i ddirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Ymchwiliad i effaith Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 - Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant (30 munud)
  • Dadl ar ddeisebau’n ymwneud â’r rhaglen frechiadau COVID-19 (30 munud)
  • Dadl ar ddeisebau ynghylch datblygu Canolfan Ganser newydd Felindre (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio (30 munud)
  • Dadl fer – Nick Ramsay (Mynwy) (30 munud)

 

 

Dydd Mawrth 9 Mawrth 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (60 munud) - Bydd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â’i chyfrifoldebau
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19 (30 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (45 munud)
    • Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021
    • Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021
    • Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021
    • Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021
  • Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021 (15munud)
  • Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 (15 munud)
  • Dadl: Trydedd Gyllideb Atodol 2020-21 (30 munud)
  • Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2021-22 (15 munud)
  • Dadl: Cyllideb Derfynol 2021-22 (60 munud)
  • Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2021-22 (60 munud)
  • Dadl: Setliad yr Heddlu 2021-22 (30 munud)
  • Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (15 munud)

 

 

Dydd Mercher 10 Mawrth 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar adferiad hirdymor o COVID-19 (60 munud)
  • Dadl ar ddeiseb P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)Dadl Fer – Huw Irranca-Davies (Ogwr) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 16 Mawrth 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") (30 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19 (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Rhyngweinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21fed ganrif (30 munud)
  • Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) 2021 (15 munud)
  • Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021 (10 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (20 munud)
    • Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021
    • Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021
    • Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021
    • Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Cymru) 2021
    • Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygio) (Cyrff Llywodraeth Leol yng Nghymru) 2021
    • Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021
    • Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021
    • Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) (Cymru) 2021
    • Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021
    • Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021
  • Gorchymyn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (Estyn y Cyfnod Adolygu) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (10 munud)
  • Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021 (10 munud)
  • Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (10 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-Drin Domestig (15 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol (15 munud)

 

 

Dydd Mercher 17 Mawrth 2021

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg (45 munud)

 

Busnes y Senedd

  • Cwestiynau i Gomiswn y Senedd (30 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: A ddylid datganoli darlledu? (30 munud)
  • Dadl ar ddeiseb ‘P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru’
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (30 munud)
  • Dadl Fer – Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) (30 munud)