Cwestiynau

Cyhoeddwyd 01/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/10/2021   |   Amser darllen munudau

Cwestiynau llafar

Caiff Aelodau'r Senedd (ASau) ofyn Cwestiynau Llafar y Senedd i'r Prif Weinidog, i Weinidogion Cymru, i'r Cwnsler Cyffredinol ac i Gomisiwn y Senedd am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu maes cyfrifoldeb. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn. Bydd y Prif Weinidog yn ateb cwestiynau bob wythnos, a bydd Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol yn ateb cwestiynau ar batrwm cylch pedair wythnos. Gofynnir cwestiynau i Gomisiwn y Senedd unwaith pob pedair wythnos hefyd.

Hysbysiad o gwestiynau llafar

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot. Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Senedd. Ar gyfer cwestiynau i’r Prif Weinidog, rhaid i’r Aelod gyflwyno ei gwestiwn llafar o leiaf dri diwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Dylid cyflwyno cwestiynau i Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Senedd o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer eu hateb. Rhaid i'r cwestiynau fod yn berthnasol i gyfrifoldebau'r Gweinidog dan sylw (neu i gyfrifoldebau Comisiwn y Senedd pan ofynnir cwestiynau i'r Comisiwn). Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

Cwestiynau amserol

Gall Aelodau ofyn Cwestiynau Amserol i aelod o'r Llywodraeth os yw'r Llywydd yn fodlon bod y cwestiwn yn ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo. Dylai Cwestiynau Amserol ond fod yn berthnasol i ddigwyddiadau ers y dyddiad cau diwethaf ar gyfer yr wythnos flaenorol.

Cwestiynau brys

Caiff yr Aelodau ofyn Cwestiynau Llafar Brys hefyd heb orfod rhoi hysbysiad. Dim ond os bydd y Llywydd yn meddwl bod y mater yn un o bwys cyhoeddus brys y caiff Aelod ofyn Cwestiynau Brys.

Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn - y drefn

Yn ystod y cwestiynau llafar, gelwir yr Aelod perthnasol i ofyn y cwestiwn a gyflwynwyd. Ar ôl i'r Gweinidog ateb (neu i'r Comisiynydd os gofynnwyd y cwestiwn i Gomisiwn y Senedd), caiff yr Aelod ofyn un cwestiwn arall sy'n berthnasol i'r cwestiwn a gyflwynwyd. Gelwir hwn yn gwestiwn atodol. Caiff y Llywydd benderfynu hefyd a ddylid galw ar Aelodau eraill i ofyn cwestiwn atodol perthnasol neu beidio. Bydd y Gweinidog (neu'r Comisiynydd) yn ateb pob cwestiwn atodol yn ei dro. Caiff Dirprwy Weinidogion ateb cwestiwn ar ran Gweinidog os yw'n gyfrifol am y pwnc dan sylw.

Cwestiynau i'w hateb yn ysgrifenedig

Os na lwyddir i gyrraedd cwestiwn llafar yn ystod trafodion Cyfarfod Llawn, caiff yr Aelod ateb ysgrifenedig ar yr un diwrnod.    Hefyd, caiff Aelodau gyflwyno cwestiynau'n benodol i gael ateb yn ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru neu Gomisiwn y Senedd. Nid oes terfyn ar nifer y cwestiynau ysgrifenedig y caiff Aelod eu cyflwyno. Bydd pob ateb ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi yng Nghofnod y Trafodion.