Trefnu’r Cyfarfod Llawn

Cyhoeddwyd 22/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/12/2020   |   Amser darllen munudau

Agenda'r Cyfarfodydd Llawn

Cyhoeddir Agenda cyn pob Cyfarfod Llawn yn rhestru'r holl eitemau sydd i'w trafod mewn Cyfarfod Llawn penodol. Mae'r Agenda'n rhestru'r holl fusnes yn y drefn y caiff ei ystyried gan yr Aelodau ac mae'n bosib ei diweddaru unrhyw bryd, hyd yn oed yn ystod y Cyfarfod Llawn perthnasol os bydd angen.

Y Pwyllgor Busnes a'r Cyfarfod Llawn

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn amserlennu'r busnes a drafodir yn y Cyfarfod Llawn.

Y Llywydd yw cadeirydd y Pwyllgor Busnes a'i aelodau yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am fusnes y llywodraeth a Rheolwr Busnes pob plaid wleidyddol (sef, yr Aelod ym mhob plaid sy'n gyfrifol am drefnu busnes ar ran y blaid honno).  

Fel rheol, bydd y Pwyllgor yn cyfarfod yn breifat bob bore Mawrth i nodi pa fusnes mae'r Llywodraeth wedi'i amserlennu ar gyfer y tair wythnos ddilynol ac i gytuno'n ffurfiol ar drefniadau ar gyfer gweddill busnes y Cyfarfod Llawn.

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Busnes a'i gyfrifoldebau eraill i'w gweld yma

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Bydd penderfyniadau'r Pwyllgor ynglŷn â busnes y Siambr yn cael eu cyhoeddi bob wythnos yn y Cyfarfod Llawn gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am fusnes y Llywodraeth.

Gelwir hyn yn Ddatganiad a Chyhoeddiad Busnes. Caiff unrhyw aelod wneud cais i ofyn cwestiwn ynglŷn â'r Datganiad a'r Cyhoeddiad Busnes a gofyn am gael ychwanegu eitemau busnes eraill yn y dyfodol.

Amserlen y Senedd

Rhaid gwneud unrhyw benderfyniadau ynglŷn â busnes Cyfarfodydd Llawn yn unol ag amserlen y Senedd.

Dogfen yw hon y bydd y Pwyllgor Busnes yn cytuno arni. Mae'n cynnwys braslun o amserlenni cyfarfodydd llawn, yr amserau sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau, yr amserau sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd grwpiau gwleidyddol, dyddiadau'r toriadau, a dyddiadau i Weinidogion, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiynwyr y Senedd ateb cwestiynau.