Datblygu'r Bil Awtistiaeth (Cymru)

Cyhoeddwyd 16/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/12/2020   |   Amser darllen munudau

O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil.

Rhaid i Aelod ddarparu "gwybodaeth cyn y balot" yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.

Os bydd y Cynulliad yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.

Prif Gerrig Milltir Manylion
Dyddiad y Ballot ​28 Marwth 2017
Dadl lle bydd y Cynulliad yn trafod cyflwyno Bil i roi effaith i’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol Memorandwm Esboniadol i'r cynnig a gyflwynwyd ar 04 Mai 2017

Y Cyfarfod Llawn - 14 Mehefin 2017​

Caniatâd i frwrw ati - Ie
Ymgynghoriad er mwyn llywio datblygiad y Bil​

Cynhaliodd Paul Davies AC ymgynghoriad ar y Bil Awtistiaeth (Cymru) arfaethedig rhwng 30 Awst 2017 a 20 Tachwedd 2017.

Mae’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad hwn wedi cael eu cyhoeddi, yn amodol ar olygu peth gwybodaeth bersonol.

​Ymgynghoriad ar Fil Awtisiaeth (Cymru) drafft

​Cynhaliodd Paul Davies AC ymgynghoriad ar destun drafft y Bil Awtistiaeth (Cymru) rhwng 20 Chwefror 2018 a 17 Ebrill 2018. Mae’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad ar y Bil drafft wedi cael eu cyhoeddi, yn amodol ar olygu peth gwybodaeth bersonol.

mewn ymateb i’r ymgynghoriad yn cael ei thrin yn unol â’r Polisi Preifatrwydd Biliau Aelodau.

​Dyddiad cyflwyno'r Bil yn y Cyfarfod Llawn ​18 Gorffennaf 2018
​Gwybodaeth am daith ddeddfwriaethol y Bil ar ôl ei gyflwyno

Bil Awtistiaeth (Cymru)​

Cynhaliwyd dadl ar yr egwyddorion cyffredinol ar 16 Ionawr 2019. Gwrthodwyd y cynnig i dderbyn yr egwyddorion cyffredinol a gwrthodwyd y Bil gan y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 26.14.