Datblygu'r Bil Diogelu Enwau lleoedd Hanesyddol Cymru

Cyhoeddwyd 15/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/12/2020   |   Amser darllen munudau

  • Enillydd y balot: Dai Lloyd AC, Bil 028, Bil Diogelu Enwau lleoedd Hanesyddol Cymru

O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil.

  • Darllenwch y wybodaeth cyn y balot ar y Bil Diogelu Enwau lleoedd Hanesyddol Cymru

Rhaid i Aelod ddarparu "gwybodaeth cyn y balot" yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.

Os bydd y Senedd yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.

Prif Gerrig Milltir Manylion
Dyddiad y Ballot ​25 Ionawr 2017
Dadl lle y bu'r Senedd yn trafod cyflwyno Bil i roi effaith i’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol

Memorandwm Esboniadol i'r cynnig a gyflwynwyd ar 28 Chwefror 2017

Y Cyfarfod Llawn - 15 Mawrth 2017

Caniatâd i frwrw ati - Na

 

Ni chafwyd caniatâd i fwrw ati ac felly ni chymerir unrhyw gamau eraill mewn perthynas â’r Bil