'Gwir Gofnod o Gyfnod' - Archif Menywod Cymru

Cyhoeddwyd 08/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r Senedd mewn partneriaeth ag Archif Menywod Cymru wedi lansio prosiect o’r enw ‘Gwir Gofnod o Gyfnod: diogelu cofnodion a lleisiau menywod yng ngwleidyddiaeth Cymru'.

Cyfweliad Suzy Davies AS

Bydd y prosiect hwn yn ceisio diogelu lleisiau a phapurau’r cyn Aelodau benywaidd y Senedd (a elwid gynt yn Aelodau Cynulliad, ACau) a rhai cyfredol, sydd wedi'u hethol i'n Senedd genedlaethol yn ystod ei hugain mlynedd gyntaf.

Mae 2019-20 yn garreg filltir arwyddocaol yn hanes y Senedd, wrth iddi ddathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu yn 1999. O’r dechrau mae’r Senedd wedi rhagori o safbwynt cyfran y menywod ymysg ei Haelodau o’i chymharu â Chynulliadau a Seneddau deddfwriaethol eraill tebyg. Yn dilyn yr etholiadau yn 2003, enillodd y Senedd y statws o fod y ddeddfwrfa gyntaf i gyrraedd cydbwysedd o ran rhyw. Roedd hyn yn ddigwyddiad o arwyddocâd rhyngwladol.

Mae rhai o’r Aelodau hyn wedi gwasanaethu ers 1999, mae rhai wedi dal swyddi pwysig yn y llywodraeth, ac mae gan bob un stori ddiddorol a phersonol i’w hadrodd o safbwynt ein hanes a’n treftadaeth ddemocrataidd. Mae'r straeon hyn yn archwilio sut y daethant i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, pa anawsterau a gawsant, eu diddordebau arbennig ym maes gwleidyddiaeth, yr ymgyrchoedd y buon nhw’n eu cefnogi a pham, ymysg pethau eraill.

Mae menywod wedi gwneud cyfraniadau enfawr i stori datganoli yng Nghymru a dylid diogelu eu cofnodion a’u storïau ar gyfer y dyfodol.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn noddi’r prosiect hwn hefyd.

Gwyliwch ddetholiad o grynodebau cyfweliad yma.

Clipiau Cyfweliad 1

Clipiau Cyfweliad 2

Clipiau Cyfweliad 3

Clipiau Cyfweliad 4

Clipiau Cyfweliad 5

Clipiau Cyfweliad 6

Clipiau Cyfweliad 7