Baneri

Baneri

Cysylltiadau Rhyngwladol

Cyhoeddwyd 01/12/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/12/2023   |   Amser darllen munudau

Mae'r Senedd yn parhau i fod yn sefydliad arloesol, sy'n rhagori mewn meysydd fel dwyieithrwydd, tegwch rhwng y rhywiau, defnyddio technoleg i wella busnes seneddol, a chyfranogiad pobl ifanc.

Mae’r Tîm Cysylltiadau Rhyngwladol yn cefnogi gweithgareddau rhyngwladol sy’n arddangos y cryfderau hyn a sy’n cysylltu'n uniongyrchol â buddiannau polisi, buddiannau gweithdrefnol a buddiannau corfforaethol y Senedd. Mae’r Senedd yn edrych tuag allan, a hynny er mwyn hyrwyddo ei gwaith a nodi cyfleoedd i gyfnewid gwybodaeth a chydweithio ar lefel ryngseneddol er budd pobl Cymru.

Drwy fod yn rhan o rwydweithiau rhyngwladol seneddol a thrwy ymgysylltu â rhaglenni a gweithgareddau pwrpasol, mae'r Senedd yn ceisio hyrwyddo a chyfnewid arferion seneddol gorau ar lwyfan ryngwladol, ac yn ceisio sicrhau bod y Senedd yn cael ei osod ar lwyfan y byd fel deddfwrfa ryngwladol unigryw, arloesol a blaengar.

Mae gan y Senedd Dîm Cysylltiadau Rhyngwladol sy'n cynorthwyo’r Llywydd, y Dirprwy Lywydd ac Aelodau’r Senedd gyda’u gwaith rhyngwladol.

 

 

 

 

Cysylltu â ni

Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

Y Tîm Cysylltiadau Rhyngwladol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN


Al Davies 
Uwch-reolwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Phrotocol
0300 200 6255

Elin Sutton
Ysgrifennydd Preifat Cynorthwyol a Rheolwr Cysylltiadau Rhyngwladol

Byddwch yn ymwybodol bod y tîm cysylltiadau rhyngwladol yn ymwneud â ymweliadau Seneddol yn unig. Dylai pob grŵp arall sydd â diddordeb mewn trefnu ymweliad i’r Cynulliad gysylltu â’r Tîm Gwybodaeth i’r Cyhoedd.