Ieithoedd Swyddogol a Recriwtio

Cyhoeddwyd 01/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/02/2021   |   Amser darllen munudau

Cafodd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ei fabwysiadu'n ffurfiol ar 12 Gorffennaf 2017.

Yn ogystal ag amlinellu'r safonau gwasanaeth yr ydym eisoes yn eu cyflawni, mae gan y Cynllun bum thema: recriwtio; sgiliau iaith; cynllunio ieithyddol; trafodion y Senedd; a datblygu ethos dwyieithog y sefydliad.

Fel rhan o'r thema gyntaf, mae'r cynllun yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i ddiwygio'r drefn recriwtio a dethol er mwyn cynyddu lefelau sgiliau Cymraeg sylfaenol ar draws y sefydliad.

O hyn allan bydd pob swydd newydd (a phob swydd sy'n dod yn wag ar sail dros dro neu barhaol) a gaiff ei hysbysebu yn cynnwys gofyniad i fod â lefel Cymraeg cwrteisi o leiaf neu ofyniad i gyrraedd y lefel honno fel rhan o'r cyfnod sefydlu, oni bai bod lefel uwch o sgiliau yn cael ei nodi (lefelau 1-5). Bydd hyn yn disodli'r arfer o ddisgrifio swyddi fel rhai 'Cymraeg yn hanfodol' a 'Cymraeg yn ddymunol'.

Mae'r trefniadau hyn yn berthnasol i staff a gyflogir gan Gomisiwn y Senedd, gan gynnwys y rhai sydd ar drefniadau dros dro fel prentisiaethau, interniaethau neu secondiadau. Nid yw'n berthnasol i Aelodau o'r Senedd a'u staff, nac i'n contractwyr nac i benodiadau fel cynghorwyr arbenigol pwyllgorau neu gynghorwyr annibynnol.

Lefel Cymraeg Cwrteisi

Os mai dyma'r lefel a bennwyd ar gyfer swydd yr ydych yn bwriadu gwneud cais amdani, dyma'r diffiniad:

  • Ynganu enwau Cymraeg, ateb y ffôn, cyfarch pobl neu gyflwyno'ch hun yn ddwyieithog;
  • Deall a defnyddio ymadroddion cyfarwydd, bob dydd, yn rhagweithiol; a
  • Deall testunau byr iawn lle mae pobl yn rhoi gwybodaeth sylfaenol am eu hunain neu eraill mewn gohebiaeth neu ar ffurflenni, neu ddehongli cynnwys drwy ddefnyddio'r dechnoleg sydd ar gael. 

Bydd pob ymgeisydd yn cael eu hasesu fel rhan o'r broses asesu a chyfweld.

Mae dwy ran i'r asesiad:

Rhan 1: Ynganu 

Mae'r rhan hon yn ymwneud â chyfathrebu llafar. Mae'r pwyslais ar ynganu geiriau ac enwau yn gywir a defnyddio ac ymateb i ymadroddion cyffredin (e.e. bore da, prynhawn da, pwy wyt ti? XX ydw i; sut wyt ti?; da iawn diolch; wedi blino, ac ati).

Rhan 2: Cwrteisi

Mae'r rhan hon yn ymwneud â chyfathrebu ysgrifenedig. Bydd y pwyslais ar ddefnyddio gwybodaeth a chyfarwyddyd sydd ar gael yn ddwyieithog i ddeall neu ddrafftio testun Cymraeg (e.e. negeseuon allan o'r swyddfa neu ddehongli ffurflenni treuliau), a hefyd sut i ddelio â thestun ysgrifenedig na allwch ei ddeall mewn modd cwrtais ac effeithiol gan ddefnyddio'r gwasanaethau a'r dechnoleg sydd ar gael i staff y Comisiwn.

Nid oes rheidrwydd arnoch i baratoi ar gyfer yr asesiad cwrteisi. Fodd bynnag, rydym wedi datblygu nifer o adnoddau i'ch helpu i ddeall y broses asesu ac i baratoi ar gyfer yr asesiad os ydych yn dymuno gwneud hynny.

Adnoddau

Yr Wyddor

Cyfarchion ac Ymatebion

Cwrteisi Ieithyddol

Terminoleg y Senedd

Os na fydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi llwyddo i gyrraedd y lefel angenrheidiol yn ystod yr asesiad, bydd gofyn iddynt ymrwymo i gael hyfforddiant gan y Tîm Sgiliau Iaith er mwyn datblygu'r sgiliau hynny.

Lefelau Sgiliau Iaith 1 – 5

Yn ychwanegol at lefel Cymraeg cwrteisi, byddwn hefyd yn defnyddio matrics sgiliau iaith sy'n diffinio lefelau sgiliau Cymraeg (1-5) mewn pedwar maes: gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Bydd y lefelau yn disodli'r disgrifiadau blaenorol o 'Cymraeg yn hanfodol' a 'Cymraeg yn ddymunol'. Y nod yw ei gwneud yn haws i ymgeiswyr ddeall yn union yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl ganddynt o ran eu sgiliau Cymraeg.  

Grid yw'r matrics sgiliau iaith sy'n cynnwys disgrifiadau o lefelau sgiliau Cymraeg wedi'u graddio rhwng 1 a 5 mewn pedwar maes, sef gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Bydd y disgrifiadau yn ffurfio rhan o'r swydd ddisgrifiad ar gyfer unrhyw swydd sydd angen lefelau sgiliau uwch na lefel Cymraeg cwrteisi.

Bydd sgiliau iaith yn cael eu hasesu naill ai yn ystod y cyfweliad, neu fel rhan o unrhyw asesiadau eraill yn ystod y broses gyfweld.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddarllen rhagor am recriwtio a sgiliau iaith Gymraeg yn ein dogfen cwestiynau cyffredin.