Uwch Benodiadau

Cyhoeddwyd 26/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/10/2021   |   Amser darllen munudau

Cyfarwyddwr Adnoddau Senedd Cymru

Cyflog cystadleuol

Caerdydd

Senedd Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl. Rydym yn deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi yng Nghymru ac yn goruchwylio gwaith Llywodraeth Cymru. Yn ystod y pandemig Covid-19, mae'r Senedd wedi parhau i weithredu'n effeithiol, ac mae ein timau wedi sicrhau y darperir cymorth seneddol o’r radd flaenaf, a hynny er gwaethaf yr heriau sy’n deillio yn sgil y pandemig.

Rydym nawr yn chwilio am Gyfarwyddwr Adnoddau a all ddatblygu’r platfform llwyddiannus yr ydym wedi'i greu. Byddwch yn weithredwr strategol sydd â'r sgiliau a'r profiad i lunio ein gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol, ac i gefnogi newid trawsffurfiol, gan sicrhau, wrth i'n sefydliad esblygu, fod ganddo'r gallu a’r capasiti i gefnogi’r Senedd i weithio’n effeithiol ac yn effeithlon.

Yn atebol i’r Prif Weithredwr ac yn gweithio gyda thîm gweithredol dawnus, byddwch yn darparu arweinyddiaeth ar gyfer y gwaith o gynllunio ein blaenoriaethau corfforaethol mewn modd strategol, llunio gwasanaethau ymatebol, nodi arbedion effeithlonrwydd a phenderfynu beth yw ein hanghenion o ran seilwaith yn y dyfodol. Byddwch wedi arfer â hyrwyddo diwylliant cynhwysol, a byddwch yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau seneddol rhagorol yn ystod cyfnod o newid digynsail.

Dyma gyfle eithriadol i weithio gyda thîm talentog mewn rôl a fydd yn amlygu’r gorau ynoch chi fel arweinydd strategol.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl neu i wneud cais ewch i https://execroles.penna.com/ neu i gael trafodaeth gychwynnol yn gyfrinachol, cysylltwch â'n partneriaid recriwtio yng nghwmni Penna, sef Roger Russell (07710701570) roger.russell@penna.com

Dyddiad cau - dydd Gwener 19 Tachwedd 2021

 


Prif Gynghorydd Cyfreithiol Senedd Cymru

Rhan-amser, 3 diwrnod yr wythnos

Cyflog cystadleuol - pro rata o ran 3 diwrnod yr wythnos

Caerdydd

Senedd Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl. Rydym yn deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi yng Nghymru ac yn goruchwylio gwaith Llywodraeth Cymru.

Rydym yn chwilio am ymgeisydd eithriadol i ymuno â'n tîm ac i’n helpu i barhau i ddarparu gwasanaethau seneddol o’r radd flaenaf i'r Senedd ar ran pobl Cymru.  A chithau’n fargyfreithiwr neu’n gyfreithiwr cymwysedig, bydd gennych yr amcan a’r crebwyll angenrheidiol i'ch galluogi chi i ddarparu cyngor cyfreithiol o’r radd flaenaf i'r Senedd wrth iddi barhau i esblygu mewn tirlun gwleidyddol a chyfansoddiadol deinamig ac wrth iddi ymateb i'r heriau a ddaw yn sgil y pandemig COVID-19.

Fel un sydd eisoes yn brofiadol mewn darparu cyngor diduedd ar faterion cyfraith gyhoeddus cymhleth a sensitif i amrywiaeth eang o uwch-randdeiliaid, chi fydd y canolwr terfynol o ran cyngor cyfreithiol i’r Aelodau o'r Senedd, cydweithwyr y Comisiwn a'r Bwrdd Taliadau Annibynnol. Byddwch yn llawn cyffro ynghylch ymdrin â materion cyfraith amrywiol, cymhleth, ac weithiau, faterion cyfraith gyhoeddus a chyfansoddiadol newydd.

Dyma gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol y Senedd ei hun ac i Gymru yn ehangach.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl neu i wneud cais ewch i https://execroles.penna.com/ neu i gael trafodaeth gychwynnol yn gyfrinachol, cysylltwch â'n partneriaid recriwtio yng nghwmni Penna, sef Roger Russell (07710701570) roger.russell@penna.com

Dyddiad cau - dydd Gwener 19 Tachwedd 2021