Siambr

Siambr

Y Comisiynwyr, eu rôl a chyfarfodydd

Cyhoeddwyd 01/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/04/2024   |   Amser darllen munudau

Mae’n ofynnol i’r Senedd, yn ôl y gyfraith, benodi Comisiynwyr y Senedd, sy’n gyfrifol am ddarparu’r staff a’r adnoddau sydd eu hangen i’r Senedd gyflawni ei waith yn effeithiol ar gyfer pobl Cymru.

Caiff y Comisiwn ei gadeirio gan y Llywydd, ac mae’n cynnwys pedwar Aelod o'r Senedd sydd wedi cael eu hethol gan y Senedd.

Mae gan y Comisiynwyr gyfrifoldeb ar y cyd am benderfyniadau ac mae ganddynt statws cyfartal mewn trafodaethau, a bydd pob aelod o'r Comisiwn yn cael ei gynnwys yn llawn yn y broses o wneud penderfyniadau.

 

​​Comisiynydd

Elin JonesCadeirydd y Pwyllgor: Elin Jones AS

Llywydd

Plaid Cymru | Grŵp Plaid Cymru

Portffolio: Cyfathrebu

Janet Finch-Saunders ASJanet Finch-Saunders AS

Plaid Ceidwawyr Cymerig | Grŵp Ceidwardwyr Cymreig

Portffolio: Datblygu cynaliadwy

Joyce Watson AS

Joyce Watson AS

Plaid Llafur Cymru | Grŵp Llafur Cymru

Portffolio: Cydraddoldeb

Rhun ap Iorwerth ASRhun ap Iorwerth AS

Plaid Cymru | Grŵp Plaid Cymru

Portffolio: Ieithoedd swyddogol

Hefin David AS

Llafur Cymru | Grŵp Llafur Cymru

 

 

Cyfarfodydd

Y Comisiwn sy’n gyfrifol am lwyddiant hirdymor y Senedd, ac am helpu i’w gwneud yn sefydliad democrataidd cryf, hygyrch a blaengar ac yn ddeddfwrfa sy’n cyflawni’n effeithiol ar gyfer pobl Cymru. 

Y Comisiynwyr sy’n gyfrifol am drefniadau llywodraethu’r sefydliad ac maent yn atebol i’r Senedd. Mae cyfrifoldebau’r Comisiynwyr fel y “bwrdd llywodraethu” yn cynnwys gosod nodau strategol y sefydliad, darparu’r arweinyddiaeth i’w rhoi ar waith, goruchwylio’r ffordd y caiff y nodau strategol eu cyflawni a chyflwyno adroddiadau a bod yn atebol i’r Senedd ynglŷn a’u stiwardiaeth.