Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
Y Siambr

​​Trosglwyddo i'r Pumed Cynulliad: Busnes cynnar

Cafodd etholiad y Pumed Cynulliad ei gynnal ar 5 Mai 2016. Beth sy'n digwydd nesaf?

 

Canlyniadau'r Etholiad

 

Bydd dadansoddiad o ffurf newydd y Senedd ar gael ar ôl cyhoeddi'r canlyniadau. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd, dilynwch @seneddcymru ar Twitter neu ewch i www.senedd.cymru/etholiad.

Dychwelyd Tystysgrifau Etholiad

 

Ar ôl i'r Swyddog Canlyniadau gyhoeddi canlyniad yr etholiad yn yr etholaeth / rhanbarth, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith iddo / iddi anfon tystysgrif at Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd i roi gwybod iddi beth yw'r canlyniad. Mae'r dystysgrif hon yn arwydd i staff y Senedd y dylent baratoi ar gyfer seremoni tyngu llw neu roi cadarnhad yr Aelod sydd newydd gael ei ethol. Ni all Aelodau dyngu'r llw nes bod y dystysgrif wedi dod i law. 

 


 

Pam mae Aelodau'n tyngu llw neu'n rhoi cadarnhad?

 

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a  Rheolau Sefydlog y Senedd, y rheolau ynghylch sut y dylai'r Senedd gynnal ei fusnes, yn datgan bod yn rhaid i Aelod dyngu'r llw neu roi'r cadarnhad cyfatebol o deyrngarwch, 'cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol' ar ôl cael ei gyhoeddi'n Aelod o'r Senedd.

Nes y bydd Aelod wedi tyngu'r llw neu wedi rhoi'r cadarnhad, ni chaiff wneud dim fel Aelod o'r Senedd, ar wahân i gymryd rhan yn y broses o ethol Llywydd neu Ddirprwy Lywydd.

Ni all unrhyw gyflog, lwfans, arian rhodd neu daliad tuag at bensiwn gael ei dalu nes y bydd y llw wedi'i dyngu neu'r cadarnhad cyfatebol wedi cael ei roi.

 

Beth yw'r llw neu cadarnhad?  

 

Mae union eiriad y llw a'r cadarnhad wedi'u nodi yn y Ddeddf Llwon Addewidiol 1868 a gall Aelodau'r Senedd dyngu llw neu roi cadarnhad drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.

Gall Aelodau ddewis tyngu'r llw ar y testun crefyddol sydd orau ganddynt. Bydd y Beibl Cymraeg, y Koran, yr Hen Destament a Beibl y Brenin Iago ar gael – neu gallant wneud y cadarnhad secwlar cyfatebol yn ystod seremoni fer. Bydd yn ofynnol i adrodd y geiriau yn uchel a llofnodi dau gopi o dystysgrif y llw neu'r cadarnhad, a byddant yn cael cadw un copi.

Llw:
"Yr wyf i, ... ... ... ..., yn tyngu y byddaf yn ffyddlon ac yn wir deyrngar i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth, ei hetifeddion a'i holynwyr, yn unol â'r gyfraith. Cynorthwyed Duw fi."

"I………, do swear that I will be faithful and bear true allegiance to Her Majesty Queen Elizabeth, her heirs and successors, according to law.  So help me God."

 Y cadarnhad:
"Yr wyf i, ………, yn datgan ac yn cadarnhau yn ddifrifol, yn ddiffuant ac yn ddidwyll, y byddaf yn ffyddlon ac yn wir deyrngar i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth, ei hetifeddion a'i holynwyr, yn unol â'r gyfraith."

"I……………, do solemnly, sincerely and truly declare and affirm, that I will be faithful and bear true allegiance to her Majesty Queen Elizabeth, her heirs and successors, according to law."

 

Ble mae'r seremoni yn cael ei chynnal?

 

Gellir cynnal y seremoni yn gyhoeddus neu'n breifat o 8am ymlaen ar 6 Mai. Cynhelir y seremoni yn y Siambr, sef siambr drafod y Senedd. Eleni, gall Aelodau'r Senedd hefyd ddewis tyngu'r llw neu roi'r cadarnhad yn swyddfa'r Senedd yng ngogledd Cymru ym Mae Colwyn neu Brifysgol y Drindod Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan.

 

Y camau nesaf

 

Ar ôl iddynt dyngu'r llw neu roi'r cadarnhad, gall yr Aelodau sefydlu eu swyddfeydd ym Mae Caerdydd a dechrau rhoi trefniadau ar waith i sefydlu eu presenoldeb yn eu hetholaethau. Byddant hefyd yn cael cyfle i gwrdd â staff Comisiwn y Senedd, sy'n cefnogi'r Aelodau i gyflawni eu dyletswyddau.

Cyn gynted ag y mae Aelodau wedi tyngu eu llw a sefydlu eu swyddfa yng Nghaerdydd, bydd eu gwybodaeth gyswllt ar gael ar www.senedd.cymru/aelodau.

 

Faint o gyflog a gaiff Aelod o'r Senedd?

 

Mae Bwrdd Taliadau'r Senedd yn gorff annibynnol sy'n pennu cyflog a lwfansau Aelodau'r Senedd.

Nodir gwybodaeth a rheolau ynglŷn â faint o gyflog a gaiff Aelodau newydd yn y Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad (Mai 2015) y cytunwyd arnynt gan Fwrdd Taliadau'r Senedd blaenorol Cymru.

Y cyflog ar gyfer yr Aelodau yn y Pumed Cynulliad fydd £64,000.

Bydd Aelodau'r Senedd sy'n dal swyddi ychwanegol yn cael cyflog ychwanegol a elwir yn 'gyflog deiliad swydd' i adlewyrchu eu cyfrifoldebau ychwanegol. Y deiliaid swyddi sy'n cael cyflogau ychwanegol yw:

  • Y Llywydd;
  • Y Dirprwy Lywydd;
  • Prif Weinidog Cymru;
  • Gweinidogion Cymru (gan gynnwys y Dirprwy Weinidogion);
  • y Cwnsler Cyffredinol;
  • Comisiynwyr y Senedd;
  • Cadeiryddion pwyllgorau'r Senedd;
  • Aelodau'r Pwyllgor Busnes;
  • Arweinydd yr Wrthblaid.

Mae manylion am gyflogau Aelodau'r Senedd ers 1999 ar gael ar wefan y Senedd. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys manylion am lwfansau a hawliadau treuliau Aelodau'r Senedd.

I gael rhagor o wybodaeth am gyflogau, lwfansau a threuliau Aelodau'r Senedd, gweler tudalen y Bwrdd Taliadau ar y we.

 


 

Cyfarfod Llawn cyntaf

 

Mae'r Cyfarfod Llawn yn gyfarfod ar gyfer pob un o'r 60 Aelod o'r Senedd. Mae'n cael ei gynnal yn y Siambr, sef siambr drafod y Senedd. Caiff y Cyfarfod Llawn ei gadeirio gan y Llywydd ac mae'n darparu cyfle i Aelodau gynrychioli eu hetholwyr, dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a deddfu ar gyfer Cymru.

Am wybodaeth fwy manwl, gweler ein Y Pumed Cynulliad: y Cyfarfod Llawn cyntaf.

 Yn ôl i'r brig

 


 

Ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd       

 

Yr eitem gyntaf o fusnes ar gyfer y Senedd newydd yw ethol Llywydd. Rhaid i Lywydd a Dirprwy Lywydd newydd gael eu penodi yng nghyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl yr etholiad a rhaid bod y cyfarfod hwnnw'n cael ei gynnal o fewn saith diwrnod gwaith ar ôl yr etholiad, h.y. erbyn dydd Llun 16 Mai.

Am wybodaeth fwy manwl, gweler ein Canllaw i fusnes cynnar y Cyfarfod Llawn ar ôl etholiad mis Mai 2016 (pdf, 453KB).

 

Pwy yw'r Llywydd?

 

Y Llywydd yw'r awdurdod uchaf yn y Senedd y'n cadeirio cyfarfod y 60 Aelod o'r Senedd yn y Cyfarfod Llawn, gan aros yn wleidyddol ddiduedd bob amser.

Mae'r Llywydd hefyd yn chwarae rôl weithredol o ran cynrychioli buddiannau'r Senedd a buddiannau Cymru ar y llwyfan cenedlaethol, ar lwyfan y DU ac ar y llwyfan rhyngwladol. Mae hefyd yn gadeirydd Comisiwn y Senedd, y corff sy'n gwneud yn siŵr bod Aelodau'r Senedd yn cael y staff a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu rolau yn effeithiol ar ran pobl Cymru.

Y Fonesig Rosemary Butler, y Llywydd presennol, fydd cadeirydd cyfarfod cyntaf y Senedd newydd, a chaiff dyddiad y Cyfarfod Llawn cyntaf ei gadarnhau ar ôl ymgynghori â'r grwpiau pleidiau newydd. Mae angen o leiaf tri o Aelodau'r Senedd i ffurfio grŵp yn y Senedd. Mae'r rhain fel arfer yn aelodau o'r un blaid wleidyddol ond gellir eu ffurfio mewn ffyrdd eraill, er enghraifft, gall tri neu fwy o Aelodau annibynnol ffurfio grŵp.

Mae'n rhaid i aelodau gael 24 awr o rybudd cyn y Cyfarfod Llawn cyntaf.

Bydd y Fonesig Rosemary hefyd yn penderfynu ar y cynllun eistedd ar gyfer y cyfarfod cyntaf. Yn dilyn y sesiwn gyntaf, caiff y Llywydd newydd adolygu'r trefniadau eistedd, unwaith y gwyddys pwy yw'r deiliaid swyddi allweddol, fel Gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Os bydd y Senedd yn cytuno ar un enwebiad ar gyfer swydd y Llywydd, bydd y bleidlais yn cael ei chynnal yn gyhoeddus yn y Siambr. Os bydd mwy nag un Aelod yn cael ei enwebu, bydd yr etholiad yn digwydd drwy bleidlais gudd y tu allan i'r Siambr, yn ardal Cwrt y Senedd.

Caniateir i eitemau eraill o fusnes, er enghraifft ethol Prif Weinidog Cymru, gael eu cynnal yn y cyfarfod cyntaf o dan Reol Sefydlog 12.10

Am wybodaeth fwy manwl, gweler ein Y Pumed Cynulliad: Ethol y Llywydd.

 Yn ôl i'r brig

 


 

Pryd a sut y caiff Prif Weinidog Cymru ei benodi?   

 

Prif Weinidog Cymru yw arweinydd Llywodraeth Cymru ac mae'n cael ei benodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn dilyn enwebiad gan Aelodau'r Senedd.

 

Rhaid i Brif Weinidog Cymru gael ei enwebu gan y Senedd o fewn 28 diwrnod, felly erbyn diwedd y dydd ar 1 Mehefin 2016. Caiff y Prif Weinidog ei enwebu gan y Senedd, a chaiff yr enwebiad ei gyflwyno gan y Llywydd i gael cymeradwyaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth. Hi sy'n gyfrifol am benodi'r Prif Weinidog. Os nad yw Prif Weinidog yn cael ei enwebu o fewn 28 diwrnod i'r etholiad, rhaid cynnal etholiad cyffredinol arall yng Nghymru.

Nodir y weithdrefn ar gyfer enwebu'r Prif Weinidog yn Rheol Sefydlog 8.

 Bydd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r pleidiau gwleidyddol, yn rhoi gwybod i'r Aelodau am ddyddiad ac amser Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd ble gall pleidlais arall drwy alw cofrestr gael ei chynnal.

Amlinellir y broses ar gyfer enwebu'r Prif Weinidog isod:

  

 

Galw cofrestr yr Aelodau

Os bydd angen cynnal pleidlais drwy alw cofrestr, bydd y Llywydd yn gofyn i bob un o’r Aelodau sy’n bresennol (yn nhrefn y wyddor) ddatgan enw’r ymgeisydd y maent yn ei ffafrio. Bydd cyfle i’r Aelodau ymatal rhag pleidleisio hefyd. Ni chaniateir i’r Llywydd na’r Dirprwy Lywydd bleidleisio.    

Os bydd dau Aelod wedi’u henwebu a bod y broses o alw cofrestr yn arwain at ganlyniad cyfartal (neu os bydd dau ymgeisydd ar ôl wedi i’r gweddill gael eu tynnu o’r broses), bydd pleidlais drwy alw cofrestr yn digwydd eto. Caiff y Llywydd ohirio’r cyfarfod ar unrhyw adeg os yw’n credu bod hynny’n briodol.

Os bydd mwy na dau Aelod wedi’u henwebu ac os na fydd yr un ohonynt yn cael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd, bydd yr ymgeisydd sydd â’r nifer leiaf o bleidleisiau yn cael ei dynnu o’r broses.  Cynhelir rhagor o bleidleisiau drwy alw cofrestr nes i un ymgeisydd gael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd.


Canlyniad yr enwebiad

Bydd y Llywydd yn argymell i'w Mawrhydi ar unwaith y dylai'r Aelod a enwebwyd gan y Senedd gael ei benodi'n Brif Weinidog. Gwneir hyn drwy anfon e-bost at y Palas ar ran y Llywydd.

Mae’n bosibl y bydd y sawl a enwebwyd i’w benodi’n Brif Weinidog yn dymuno traddodi araith yn syth ar ôl yr enwebiad.

 

Pryd a sut y caiff Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion Cymru eu penodi?

 

Y Prif Weinidog sy’n gyfrifol am enwebu Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion a bydd Ei Mawrhydi’n cymeradwyo’r enwebiadau. Bydd Ysgrifenyddion y Cabinet a’r Gweinidogion yn tyngu’r llw swyddogol ac yn rhoi gwybod i’r Clerc eu bod wedi gwneud hynny.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • Y Prif Weinidog
  • Ysgrifenyddion y Cabinet
  • Gweinidogion Cymru a’r
  • Cwnsler Cyffredinol

Cânt gymorth gan weision sifil sy’n gweithio mewn swyddfeydd ar hyd a lled Cymru.

Prif Weinidog Cymru yw pennaeth Llywodraeth Cymru.

Y Cabinet yw’r corff sy’n gwneud prif benderfyniadau Llywodraeth Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am Lywodraeth Cymru ar gael yma www.llyw.cymru

Y Prif Weinidog sy’n penderfynu ar rôl, teitlau swyddi a chyfrifoldebau Ysgrifenyddion y Cabinet a’r Gweinidogion.
Penodir y Gweinidogion i ymgymryd â swyddogaethau ar ran Ysgrifenyddion y Cabinet mewn rhai meysydd penodol. Gall y Prif Weinidog benodi hyd at, ond dim mwy na, 12 Ysgrifenyddion y Cabinet / Gweinidog i ffurfio cabinet, heb gynnwys y Cwnsler Cyffredinol na’r Prif Weinidog.

Y Cwnsler Cyffredinol yw Swyddog y Gyfraith yn Llywodraeth Cymru a gall fod er nad oes raid iddo neu iddi fod yn Aelod o'r Senedd. Y Prif Weinidog sy’n gyfrifol am enwebu’r Cwnsler Cyffreindol a bydd Ei Mawrhydi’n cymerawdwyo’r enwebiad.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnig a gweithredu polisïau a cyfreithiau mewn 21 o feysydd pwnc a ddatganolwyd i Gymru, er mwyn gwella bywydau pawb yng Nghymru.

Dyma rôl Llywodraeth Cymru:

  • gwneud penderfyniadau ar faterion yn ymwneud â’r 21 pwnc a ddatganolwyd i Gymru;
  • datblygu polisïau a’u rhoi ar waith;
  • datblygu cyfreithiau i Gymru.  

 

Ail Gyfarfod Llawn

 

Caiff y Cyfarfod Llawn nesaf ei drefnu gan y Llywydd ar ôl ymgynghori â'r grwpiau gwleidyddol. Rhaid i'r Llywydd roi gwybod i'r Aelodau am ddyddiad ac amser y cyfarfod nesaf a rhoi 24 awr o rybudd. 

Yn ôl i'r brig 

 


 

Pryd y penodir i'r Pwyllgor Busnes?   

 

Mae Rheolau Sefydlog y Senedd, sef y rheolau ynglŷn â sut y dylai'r Senedd gynnal ei fusnes, yn dweud bod yn rhaid i'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros drefnu busnes y llywodraeth gyflwyno cynnig – bod y Senedd yn cytuno ar aelodaeth y Pwyllgor Busnes. Mae'r Pwyllgor Busnes yn cynnwys un Aelod o bob grŵp gwleidyddol, a'r Llywydd,​ sef Cadeirydd y Pwyllgor Busnes. Bydd y Pwyllgor Busnes yn penderfynu pa bwyllgorau y dylid eu sefydlu, ac yn gwneud cynigion i'r Senedd gytuno arnynt.

 

Beth mae'r Pwyllgor Busnes yn ei wneud?

 

Mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am benderfynu sut y mae gwaith y Senedd yn y Senedd yn cael ei drefnu a'i flaenoriaethu. Mae hynny'n cynnwys cytuno ar nifer, maint a chyfrifoldebau'r pwyllgorau, ar drefn busnes ac ar flaenoriaethau unrhyw fusnes yn y Siambr. Mae hefyd yn cynnig unrhyw newidiadau i Reolau Sefydlog y Senedd, sef y rheolau sy'n nodi sut y mae'r Senedd yn cynnal ei fusnes yn y Cyfarfod Llawn a'r pwyllgorau. 

 

 Yn ôl i'r brig

 


 

Pwy a beth yw Comisiwn y Senedd?  

 

Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i’r Senedd benodi Comisiynwyr y Senedd. Y rhain sy’n gyfrifol am ddarparu’r staff a’r adnoddau sydd eu hangen ar y Senedd i ymgymryd â’u swyddogaethau’n effeithiol ar ran pobl Cymru. Mae’r Comisiwn yn cynnwys pump o Aelodau - y Llywydd sy’n cadeirio’r cyfarfodydd, a phedwar o Aelodau - un o bob un o’r grwpiau gwleidyddol mwyaf.

Mae Rheolau Sefydlog y Senedd, sef y rheolau sy’n nodi sut y dylai gynnal ei fusnes, yn dweud bod yn rhaid penodi’r Comisiynwyr cyn pen 10 diwrnod ar ôl penodi’r Pwyllgor Busnes. Tan hynny, bydd y Comisiynwyr presennol yn parhau yn eu swyddi, i sicrhau bod gan y Comisiwn aelodau bob amser a’i fod yn gallu gwneud penderfyniadau. Os oes dau grŵp neu ragor â’r un faint o Aelodau, y Llywydd fydd yn gyfrifol am benderfynu pa un o’r grwpiau gwleidyddol hyn ddylai gael eu cynrychioli ar y Comisiwn e.e. drwy ystyried pa grŵp gafodd y gefnogaeth gryfaf yn yr etholiad. 

 

Penodi Comisiynwyr

 

Mae Rheolau Sefydlog y Senedd, sef y rheolau ynglŷn â sut y dylai'r Senedd gynnal ei fusnes, yn dweud bod yn rhaid i Gomisiynwyr gael eu penodi o fewn 10 diwrnod ar ôl penodi aelodau'r Pwyllgor Busnes. Os oes dau neu fwy o grwpiau gwleidyddol a chanddynt yr un nifer o Aelodau, mae'r Llywydd yn gyfrifol am benderfynu pa un o'r grwpiau gwleidyddol hynny a ddylai gael eu cynrychioli yn y Comisiwn, e.e. drwy ystyried pa grŵp a gafodd y lefel uchaf o gefnogaeth etholiadol yn yr etholiad.

Am wybodaeth fwy manwl, gweler ein Canllaw i fusnes cynnar y Cyfarfod Llawn ar ôl etholiad mis Mai 2016 (pdf, 453KB) neu Y Pumed Cynulliad: Penodi Comisiwn y Cynulliad.

Yn ôl i'r brig


Partners & Help