Data Agored

Cyhoeddwyd 01/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/01/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'r rhyngrwyd wedi newid y ffordd rydym yn cael gwybodaeth, yn ei defnyddio a'i rhannu. Fel corff yn y sector cyhoeddus sy'n deddfu ar gyfer Cymru ac yn edrych ar waith Llywodraeth Cymru, rydym yn cynhyrchu llawer o wybodaeth. Mae hyn yn cynnwys rhai setiau data sy'n cael eu darparu fel data agored. Un o brif flaenoriaethau'r Senedd yw sicrhau bod ein gwaith yn dryloyw ac yn atebol. Mae ein cynnwys ni'n agored, gan mai eich cynnwys chi ydyw.

Pa ddata sydd ar gael ar hyn o bryd?

Mae'r setiau data canlynol ar gael ar hyn o bryd i'w hailddefnyddio o dan y Drwydded Llywodraeth Agored. I gael rhagor o wybodaeth am drwyddedu, ewch i Ailddefnyddio gwybodaeth y sector cyhoeddus.

Mewn sawl enghraifft, rydym yn defnyddio XML (Iaith Arwyddnodi Estynadwy) i sicrhau bod y wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi yn agored, yn dryloyw ac nad yw mewn fformat perchnogol. Yn nhermau cyfrifiadurol, mae XML yn iaith arwyddnodi sy'n diffinio set o reolau ar gyfer amgodio dogfennau mewn fformat sy'n ddarllenadwy i bobl a pheiriannau fel ei gilydd. Dyluniwyd XML i'w gwneud yn haws rhannu gwybodaeth a dehongli data. Yn ei hanfod, mae'n helpu gwahanol bobl, cyfrifiaduron a systemau i ddeall ei gilydd ar blatfform digidol. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio XML, ewch iw3schools.com.

Ffynonellau data ▼

Data Disgrifiad Ffynhonnell
Llyfrgell XML Cofnod y Trafodion (Cyfarfod Llawn):

Yma gallwch lwytho a gweld y Cofnod swyddogol o Gyfarfod Llawn y Senedd mewn fformat XML.

I gael rhagor o wybodaeth am XML, ewch i w3schools.com.

http://cofnod.senedd.cymru/XMLExport
Llyfrgell XML Deddfwriaeth

Yma gallwch lwytho data sy'n ymwneud â deddfwriaeth (Biliau, Deddfau, rhestrau wedi'u gosod mewn trefn) yn fformat XML y Goron

Arweiniad pellach ar XML y Goron

http://data-deddfwriaeth.senedd.cymru
Gwybodaeth am gyfarfodydd Gwybodaeth am gyfarfodydd Pwyllgorau a Chyfarfod Llawn y Senedd. Mae'r data'n cynnwys cynrychiolwyr, lleoliadau ac amseroedd, testun agendâu a chofnodion a lincs i ddogfennau perthnasol mewn fformat XML.
Mae'r llyfrgell hon hefyd yn cynnwys gwybodaeth am Aelodau o'r Senedd a'u hetholaethau mewn fformat XML
Arweiniad ar ein gwybodaeth am gyfarfodydd
http://busnes.senedd.cymru/mgwebservicew.asmx
Calendr a gwybodaeth am digwyddiadau Gallwch weld digwyddiadau yng nghalendr y Senedd gyda pharamedrau opsiynau ar gyfer y dyddiad a'r math o ddigwyddiad. Ar gael fel XML neu JSON
Mae hefyd yn bosibl tanysgrifio i galendrau unigol mewn fformat iCal neu vCal o'u tudalennau gwe
Cymorth ynghylch defnyddio ein gwybodaeth am galendrau
http://busnes.senedd.cymru/mgwebservicew.asmx
http://busnes.senedd.cymru/calJson.aspx
Ffrydiau RSS busnes eraill Mae amrywiaeth o ffrydiau RSS eraill yn ymwneud â busnes y Senedd ar gael. Mae'r ystod lawn i'w gweld ar ein tudalen egluro RSS http://busnes.senedd.cymru/mgrss.aspx

Mae gennym ddiddordeb yn eich barn chi wrth inni weithio tuag at wneud mwy o ddata yn agored yn y dyfodol. Cysylltwch â ni drwy cysylltu@senedd.cymru / 0300 200 6565 os oes gennych unrhyw adborth.