Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Etholiadau’r Senedd

Gwybodaeth ar gyfer Ymgeiswyr

Nod yr wybodaeth ar y dudalen hon yw rhoi gwybodaeth gefndir i ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd ynghylch sefyll mewn etholiad, ac amlinelliad o'r cymorth a'r arweiniad a fydd ar gael iddynt os cânt eu hethol.

Cymhwyso i fod yn Aelod o'r Senedd

I fod yn Aelod o'r Senedd mae'n rhaid i chi fod yn gymwys i fod yn aelod, trwy fodloni gofynion fel oedran a dinasyddiaeth.

Bydd angen i chi hefyd sicrhau nad ydych wedi cael eich anghymhwyso rhag gallu ymgeisio.
Mae yna nifer o resymau pam y gallech gael eich anghymhwyso rhag sefyll etholiad i'r Senedd neu rhag bod yn Aelod o'r Senedd. Mae ystod lawn yr anghymwysiadau yn gymhleth. Maent yn cynnwys, er enghraifft, bobl sydd â swyddi penodol, pobl a ddyfarnwyd yn fethdalwyr, a phobl a gafwyd yn euog o droseddau penodol.

Mae’r brif ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag anghymhwyso yn cynnwys Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020) a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015. Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyflwyno ac ymgynghori ar Orchymyn diwygiedig cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021. Mae hyn yn debygol o fod yn ystod hydref 2020.

Nid yw'r rhestr uchod yn cynnwys yr holl ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghymhwyso, a chanllawiau’n unig yw'r wybodaeth a roddir yma. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd ei hun yw sicrhau nad yw'n anghymwys i sefyll etholiad neu i fod yn Aelod o'r Senedd.
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi canllawiau i ymgeiswyr ac asiantau ynghylch etholiadau. Mae’r canllawiau yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn sy’n gymwys ac yn anghymwys o ran sefyll etholiad ac o ran bod yn Aelod o’r Senedd. Cyhoeddir y canllawiau hyn cyn Etholiadau Senedd 2021. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw amheuaeth, dylech edrych ar yr holl ddeddfwriaeth berthnasol a/neu ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol.

Y profiad o fod yn Aelod o’r Senedd

Ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, mae natur gyfansoddiadol y corff sy'n deddfu ar gyfer Cymru wedi newid yn ddramatig ac mae'n parhau i ddatblygu.

Yn ystod y pumed Cynulliad, rhoddwyd pŵer i'r Senedd ddeddfu ynghylch trethi datganoledig ac mae Deddf Cymru 2017 yn newid yn sylfaenol y setliad datganoli.

Mae gan Aelodau o'r Senedd rôl bwysig ac unigryw o ran cynrychioli pobl Cymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, a hynny ar adeg pab fydd democratiaeth yng Nghymru yn esblygu o'u cwmpas.

Rôl Aelodau o’r Senedd

Mae Aelodau o’r Senedd yn cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, yn deddfu ar gyfer Cymru, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Mae’r Aelodau yn cynrychioli buddiannau'r unigolion sy'n byw yn yr etholaethau neu'r rhanbarthau y cawsant eu hethol i'w cynrychioli. Maent yn dod i gysylltiad â'r cyhoedd yn rheolaidd drwy gyfarfodydd, galwadau ffôn, gohebiaeth neu gymorthfeydd.

Pan fydd y Senedd yn eistedd, bydd yr Aelodau yn cyfarfod yn y Senedd ym Mae Caerdydd i drafod y materion sydd o bwys i Gymru a'i phobl. Maent yn cyfarfod yn y Cyfarfod Llawn ddwywaith yr wythnos, ac yno mae Aelodau yn gofyn cwestiynau i Weinidogion Llywodraeth Cymru, yn cynnal dadleuon ar faterion megis polisïau'r Llywodraeth ac adroddiadau pwyllgorau, ac yn trafod cyfreithiau Cymru. Caiff gwrthbleidiau gynnal dadleuon ar faterion o'u dewis. Dyrennir y cyfleoedd i gynnig dadl yn ôl maint cymharol y pleidiau yn y Senedd.

Mae’r Aelodau hefyd yn cyfarfod mewn pwyllgorau, a sefydlwyd gan y Senedd i archwilio sut mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith, i ystyried deddfau arfaethedig, ac i archwilio materion sy'n bwysig i bobl yng Nghymru.

Trwy'r pwyllgorau, mae'r Senedd yn gallu cyflawni gwaith craffu mwy manwl, a chaiff Aelodau arbenigo mewn pynciau penodol.

Cadarnhad neu lw teyrngarwch

Mae gofyn i Aelodau o’r Senedd dyngu llw teyrngarwch neu roi cadarnhad cyfatebol yn fuan ar ôl iddynt gael eu hethol. Ni allant wneud eu gwaith yn llawn fel Aelodau hyd nes y tyngwyd y llw neu y rhoddwyd y cadarnhad.

Cymorth ar gyfer Aelodau

Mae Aelodau rhanbarthol ac Aelodau etholaethol yn cael yr un cymorth. Mae rhagor o wybodaeth am rolau a chyfrifoldebau Aelodau etholaethol ac Aelodau rhanbarthol yn y Rheolau Sefydlog, sef y rheolau sy'n rheoli gweithdrefnau'r Senedd.

Cymorth gan y Comisiwn

 Comisiwn y Senedd yw'r corff corfforaethol sy'n gyfrifol am sicrhau bod eiddo, staff a gwasanaethau'n cael eu darparu ar gyfer y Senedd. Mae Comisiwn y Senedd yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod o bleidiau gwleidyddol gwahanol.

Mae staff y Comisiwn yn darparu gwahanol fathau o gymorth, gan gynnwys cyngor amhleidiol, arweiniad a chymorth ymarferol i Aelodau.

Mae gwasanaethau'r Comisiwn yn cynnwys:

• Cymorth ar gyfer Busnes y Senedd, gan gynnwys y Cyfarfod Llawn a'r Pwyllgorau;

• Gwasanaeth Ymchwil sy'n darparu papurau briffio a dadansoddiadau;

• Gwasanaethau Cyfreithiol;

• Cyfathrebu, gan gynnwys timau Allgymorth ac Addysg;

• Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd;

• TGCh; a

• Gwasanaethau Aelodau megis datblygiad proffesiynol parhaus, cymorth ariannol ac arweiniad i'r Aelodau fel cyflogwyr.

Cyflogau a lwfansau

Bwrdd Taliadau’r Senedd yw'r corff annibynnol sy'n gyfrifol am bennu cyflogau, pensiynau a lwfansau Aelodau o'r Senedd a'u staff.  Mae'r Bwrdd yn annibynnol ar y Senedd ac Aelodau o'r Senedd.

​Staff Cymorth Aelodau o'r Senedd

Caiff Aelodau gyflogi staff i'w cynorthwyo gyda'u dyletswyddau fel Aelodau o’r Senedd yn unol â Phenderfyniad y Bwrdd Taliadau. Mae cyngor a chymorth o ran recriwtio staff ar gael i Aelodau o'r Senedd gan staff Comisiwn y Senedd.

Swyddfeydd

Ystâd y Senedd yw tri adeilad ym Mae Caerdydd (y Senedd, Tŷ Hywel a'r Pierhead), a swyddfa ym Mae Colwyn.

Darperir swyddfa i bob Aelod yn Nhŷ Hywel, sef yr adeilad ger y Senedd. Hefyd, darperir ar gyfer costau swyddfa yn yr etholaeth/rhanbarth. Yn gyffredinol, mae Aelodau'n dewis swyddfeydd sy'n hawdd i'w hetholwyr eu cyrraedd ac sy'n hygyrch ar gyfer staff ac etholwyr.

Diogelwch

Mae diogelwch yn flaenoriaeth gan y Senedd. Rhoddir pàs diogelwch i Aelodau a'u staff ar ôl i'r llw gael ei dyngu. Rhaid i basys gael eu dangos bob amser ar ystâd y Senedd. Mae gan y Senedd Uned Heddlu benodol yn Nhŷ Hywel, a'i thasg hi, ar y cyd â'r Tîm Diogelwch, yw gwarchod ystâd y Senedd a sicrhau na therfir ar fusnes.

Ieithoedd swyddogol

Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Senedd, ac mae'r Senedd yn anelu at fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. Mae'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn nodi'r hyn y mae'r Senedd yn ei ddarparu yn ddwyieithog ar hyn o bryd; mae hefyd yn nodi'r gwasanaethau y mae'n anelu at eu darparu. Mae'r Cynllun yn seiliedig ar Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 ac fe'i mabwysiadwyd gan y Cynulliad yn ffurfiol ym mis Gorffennaf 2013.

Cydraddoldeb

Mae Comisiwn y Senedd wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal fel cyflogwr ac fel darparwr gwasanaethau. Mae Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant Comisiwn y Senedd yn egluro sut y bydd Comisiwn y Senedd yn hyrwyddo cydraddoldeb, parchu amrywiaeth, a chanfod rhwystrau posibl i gydraddoldeb a'u dileu ar gyfer ein staff, Aelodau o'r Senedd a'u staff, a'r cyhoedd. Caiff Cynllun Cydraddoldeb newydd ei ddatblygu ar gyfer y Pumed Cynulliad.

Fel cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau, mae Aelodau o'r Senedd yn ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.  Mae cyngor ynghylch cyflawni'r dyletswyddau ar gael i Aelodau mewn ffeithlenni sydd ar gael ar fewnrwyd yr Aelodau, neu fe'i ceir gan Dîm Amrywiaeth a Chynhwysiant y Comisiwn.

Gwasanaethau eraill a gwybodaeth bellach

Bydd Comisiwn y Senedd yn cyfeirio Aelodau o'r Senedd at wasanaethau a chyfleusterau eraill, fel cymorth i Aelodau anabl, gofal plant, triniaeth feddygol pan na fyddant yn aros yn eu prif gartref, arlwyo, gwasanaethau post a rhwydweithiau cefnogi staff.

Darperir gwybodaeth a chymorth pellach i Aelodau ar bob agwedd ar eu rôl fel Aelodau o’r Senedd ar ôl iddynt dyngu'r llw neu roi'r cadarnhad.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â dysguaelodau@senedd.cymru


 

Partners & Help