Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Cymorth iechyd meddwl, treulio gormod o amser o flaen sgrin, a pwysau gwaith ysgol - Senedd Ieuenctid Cymru yn holi’r Prif Weinidog mewn cyfarfod Coronafeirws arbennig

30/04/2020

Pynciau eraill a gafwyd eu trafod:
  • Adnoddau i siaradwyr Cymraeg ifanc
  • Ad-dalu ffioedd dysgu
  • Pryder ynghylch pwysau gwaith ysgol a dileu arholiadau

Roedd cymorth iechyd meddwl, treulio gormod o amser o flaen sgrin a phwysau gwaith ysgol ymhlith y prif faterion a gafodd eu trafod ar ran pobl ifanc Cymru mewn cyfarfod arbennig rhwng Senedd Ieuenctid Cymru a'r Prif Weinidog.

Roedd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, hefyd yn rhan o’r sesiwn rithwir a gafodd ei gadeirio gan Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC. Roedd y cyfarfod yn gyfle i'r Aelodau rannu pryderon yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru.

Ymdriniwyd ag ystod eang o bynciau yn y cyfarfod, yn cynnwys faint o oriau y dylai pobl ifanc dreulio ar waith ysgol bob wythnos, gorbryder yn sgil canslo arholiadau, cymorth ariannol i ddarpar fyfyrwyr prifysgol, a’r rhagolygon ynghylch pobl ifanc fydd yn chwilio am swyddi mewn cyfnod o ddirwasgiad.

Bu'r Prif Weinidog a’r Gweinidog Addysg yn trafod sut y maen nhw’n bwriadu gwarchod gwasanaethau iechyd meddwl gymaint â phosibl, safoni’r hyn y mae ysgolion ledled Cymru yn ei gynnig er mwyn i bawb ddeall beth sy’n ddisgwyliedig oddi-wrthynt, a’r angen i addasu rhai cynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer economi Cymru er mwyn rhoi mwy o gefnogaeth i bobl ifanc.

Yn dilyn cwestiwn gan berson ifanc ynghylch faint o amser sy’n addas i'w dreulio o flaen sgrin, gyda chymaint o’u gwaith a’u bywyd cymdeithasol bellach yn digwydd ar-lein, dywedodd y Gweinidog Addysg fod angen i bobl gymryd elfen o gyfrifoldeb personol dros yr hyn y maen nhw’n teimlo sy’n iawn, gan bwysleisio fod ymarfer corff yn yr awyr agored yn llesol i’r corff a’r meddwl.

Wrth grynhoi'r sesiwn, dywedodd Charley Oliver-Holland, Dwyrain Casnewydd:

"Rydw i wedi clywed llawer o bobl ifanc yn dweud nad ydyn nhw’n siŵr beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd, ond o'r sgwrs hon mae'n ymddangos ei bod nhw’n gwneud cryn dipyn.

"Rydw i eisiau diolch ar ran yr holl bobl ifanc, yn enwedig yn fy ardal i, sydd yn teimlo’n ddiflas am yr hyn sy'n digwydd.

"Mae llawer yn cael ei wneud ac mae rhywun yn gwrando arnom ni. Roedd cael cynnal y cyfarfod hwn, yn enwedig, yn golygu bod rhywun wedi gwrando arnom ni, felly rwy’n ddiolchgar."

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Rydym yn byw drwy gyfnod digyffelyb yn ein hanes. Mae'r argyfwng hwn yn cael effaith ar bob un ohonom, o bob cenhedlaeth, a dyna pam ei bod mor bwysig bod lleisiau pobl ifanc yn cael sylw yn ystod y cyfnod hwn, er mwyn i ni ddeall pryderon pobl ledled y wlad.

"Roedd y Senedd yn un o'r rhai cyntaf yn y byd i gyfarfod bron i dair neu bedair wythnos yn ôl, ac yn awr rydym yn cael ein trafod ledled y byd fel senedd sydd wedi arwain y ffordd wrth barhau â'n gwaith craffu.

"Nawr rydym yn torri tir newydd eto wrth i'n Senedd Ieuenctid cwrdd yn ffurfiol, yn rhithwir, yn y cyfnod anghyffredin yma."

Wrth gloi’r cyfarfod, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford AC:

"Rydym yn byw yn y cyfnod rhyfeddaf, yn wahanol i unrhyw beth y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ei brofi eto erioed.

“Rwy'n gobeithio y byddwch chi, yn unigol, ac hefyd y bobl ifanc yr ydych yn eu cynrychioli, yn cadw rhyw fath o gofnod o’r profiad a’r teimlad o fod yn berson ifanc yn ystod yr argyfwng Coronafeirws.

“Beth yw'r pethau sydd fwyaf o bwys i bobl ifanc? Beth yw'r technegau y mae pobl ifanc yn eu defnyddio er mwyn dod drwy’r cyfan? A oes unrhyw brofiadau yr hoffech chi ei weld yn parhau, a beth yw'r pethau rydych chi'n awyddus i'w cael yn ôl?

"Bydd eich profiad yn unigryw, ni fydd unrhyw un arall yn mynd drwy'r hyn rydych chi'n mynd drwyddo yn ystod eich bywyd. Meddyliwch am y peth a gwnewch ymdrech i gasglu a chofnodi'r pethau hyn. Dydyn ni ddim am i'ch profiadau chi gael eu hanghofio pan fydd yr argyfwng hwn ar ben."

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnwys 60 o aelodau o bob rhan o Gymru  sy'n  cynrychioli naill ai etholaethau neu sefydliadau partner. Mae hyn yn sicrhau bod grwpiau lleiafrifol megis cymunedau LGBTQ a chymunedau BAME yn cael eu cynnwys, yn ogystal â phlant ag anableddau neu o gefndiroedd gofal cymdeithasol. 

Partners & Help