Desktop
Skip Ribbon Commands
Skip to main content
 
 
You are in :

Tri o bob pump o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn ceisio ymdopi â materion iechyd emosiynol ac iechyd meddwl bob wythnos

09/10/2020

  • Mae llai na hanner o blant a phobl ifanc o’r farn bod y gwasanaethau cymorth a ddarperir yn eu hysgolion neu golegau o ansawdd da iawn
  • Mae rhai plant yn aros hyd at flwyddyn i gael triniaeth
  • Yn ystod yr ymchwiliad dan sylw, mynegodd plant a phobl ifanc ledled Cymru eu pryderon

Mae mwy na 60 y cant o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael profiadau emosiynol anodd neu’n dioddef o broblemau iechyd meddwl o leiaf unwaith yr wythnos.

Dyma un o ganfyddiadau ymchwiliad a gynhaliwyd gan un o bwyllgorau Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn archwilio’r cymorth a ddarperir mewn perthynas ag iechyd emosiynol ac iechyd meddwl.

Mae'r adroddiad - Gadewch i ni Siarad am Iechyd Meddwl - ar gael yma

Ac i gyd fynd â'r adroddiad, maen nhw wedi cynhyrchu fideo sydd ar gael ar YouTube

Yn ogystal, canfu arolwg o fwy na 1,600 o bobl, gan gynnwys plant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol, fod diffyg addysg ynghylch faint o gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer materion iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, a bod angen gwella mynediad at wasanaethau cwnsela mewn ysgolion a cholegau.

“Pan es i o gwmpas fy etholaeth, mi wnes i glywed lot o bethau wnaeth fy nychryn i. Un o’r pethau oedd faint o bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl, yr ail yw’r diffyg cymorth sydd ar gael ac yn drydydd faint o bobl sy’ ddim hyd yn oed yn gwybod bod cymorth ar gael iddyn nhw os ydyn nhw’n stryglo.” - Ifan Price, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd.


Roedd llai na hanner y plant a'r bobl ifanc o'r farn bod y gwasanaethau cymorth sydd ar gael yn eu mannau dysgu o ansawdd da iawn.

Dim ond 20 y cant o rieni a gofalwyr oedd yn cytuno.

“Mae iechyd meddwl yn gallu effeithio ar unrhyw un ac mae’n hanfodol bod y rhai sydd angen cefnogaeth ac arweinyddiaeth yn derbyn y modd priodol ac adnoddau i allu gwneud hynny.” Emily Kaye, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Lanelli.

Clywodd y pwyllgor fod rhestrau aros hir ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Dywedodd dros hanner yr oedolion a ymatebodd i’r arolwg fod yn rhaid i blentyn neu berson ifanc a atgyfeiriwyd ganddynt ar gyfer cymorth aros hyd at flwyddyn cyn cael triniaeth.

"Rwy'n credu bod angen i ni roi gwybodaeth i BOB plentyn am ble i gael cymorth beth bynnag fo’r sefyllfa. Y broblem yw nad yw’r rhan fwyaf o wasanaethau sy’n rhoi help a chymorth yn rhoi hyn nes i chi gyrraedd pen eich tennyn, mae angen i hyn newid!”  – person ifanc anneuaidd 16 mlwydd oed o Gaerffili

Clywodd yr aelodau fod diffyg addysg neu wybodaeth ar gael ynghylch iechyd meddwl a'r gwasanaethau a ddarperir. Gwnaethant glywed hefyd am yr angen i roi terfyn ar y stigma sy’n gysylltiedig â’r mater hwn a’r angen i’w normaleiddio, a hynny er mwyn sicrhau bod gan fwy o blant a phobl ifanc yr hyder i siarad am eu teimladau.

"Mae'n dibynnu ar y gwasanaeth/pobl sydd ganddynt yn eu bywydau ... bydd pobl ifanc yn agored i bobl y maent yn teimlo'n gyfforddus â nhw ac yn ymddiried ynddynt i wneud hynny."  – Gweithiwr Ieuenctid o Wrecsam.

“Gall cael rhywun arall sy’n mynegi pryder cyn i chi sôn amdano eich hun fod yn ffactor ysgogol enfawr wrth geisio am gymorth. Efallai y byddai'n ddefnyddiol datblygu ffordd o wneud pobl yn ymwybodol o’r arwyddion bod rhywun yn stryglo, os yw hyn yn bosibl.” – Merch 17 oed o Ynys Môn.

Daeth y pwyllgor i'r casgliad nad oedd digon yn cael ei wneud i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt, ac y dylid sicrhau bod llawer mwy o wybodaeth ac addysg ar gael, gan gynnwys ar gyfer plant llawer iau.

Mae'r pwyllgor o’r farn bod y cwricwlwm newydd yng Nghymru, a gaiff ei gyflwyno yn 2022, yn gyfle i ymgorffori iechyd meddwl yn yr ystafell ddosbarth. Yn gysylltiedig â hyn, mae’r pwyllgor o’r farn y dylai ysgolion gynyddu'r amser y mae cwnselwyr ar gael i gefnogi pobl ifanc.

O ran gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS), daeth yr aelodau i'r casgliad bod angen gweithredu ar frys i leihau amseroedd aros. Byddai hyrwyddo mwy ar y gwasanaethau amgen sydd ar gael i’r rhai nad ydynt eto wedi cyrraedd pwynt argyfwng yn galluogi pobl ifanc i ddefnyddio technegau ymdopi a allai, yn eu tro, leihau’r galw ar CAMHS.

Bydd yr adroddiad llawn yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru er mwyn iddi ymateb iddo.

Tair blaenoriaeth y Senedd Ieuenctid

Mae’r adroddiad hwn yn cynrychioli’r ail o dair blaenoriaeth allweddol a bennwyd gan Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod ei chyfarfod cyntaf ym mis Chwefror y llynedd. Dyma'r blaenoriaethau hynny:

Adroddiad Pwyllgor Senedd am Iechyd Meddwl

Bydd yr adroddiad ar iechyd emosiynol ac iechyd meddwl yn cael ei gyhoeddi cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref). Mae'n cyd-fynd ag adroddiad arall a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd.

Mae ‘Cadernid Meddwl’ yn ddarn o waith dilynol a wnaed yn sgil yr ymchwiliad a gynhaliwyd yn 2018 i wasanaethau iechyd meddwl plant yng Nghymru. Mae'n tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cynnydd cyflym yn cael ei wneud o ran rheoli effaith pandemig y Coronafeirws ar iechyd meddwl plant wrth iddynt ddioddef cyfnodau hir pan nad oes modd iddynt fynychu eu hysgolion na chlybiau, na chwrdd ag aelodau o’u teuluoedd neu ffrindiau.

Partners & Help