Cyfle Gwaith: Cynghorwr Gweithredol ar gyfer Andrew Griffin AS

Cyhoeddwyd 30/09/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/09/2026

Cyfle Gwaith: Cynghorwr Gweithredol ar gyfer Andrew Griffin AS

Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod penodol am 6 mis, gyda'r posibilrwydd o estyniad yn amodol ar berfformiad boddhaol
Lleoliad: Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-192-26

Prif ddyletswyddau:

  • Gwneud gwaith ymchwil manwl ar ddeddfwriaeth, polisïau'r Llywodraeth a thueddiadau gwleidyddol.
  • Drafftio a chyflwyno cwestiynau, cynigion, areithiau a gwelliannau yn y Senedd.
  • Datblygu perthynas â melinau trafod, adrannau'r Llywodraeth, elusennau a grwpiau 
    eiriolaeth.
  • Cefnogi staff Cyfathrebu i ddrafftio datganiadau i'r wasg a datganiadau polisi ar gyfer y cyfryngau ac allgymorth cyhoeddus.  
  • Goruchwylio gwaith swyddogion polisi, ymchwilwyr llai profiadol a staff eraill, o bosibl, er mwyn sicrhau gwaith o ansawdd uchel.  

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad sylweddol o ddarparu gwaith ymchwil neu waith briffio mewn amgylchedd seneddol neu amgylchedd tebyg.
  • Profiad o weithio’n uniongyrchol gyda phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd prysur.
  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a 
    chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall. 

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Andrew.Griffin-AS@senedd.cymru 

I wneud cais, anfonwch eich cais at Andrew.Griffin-AS@senedd.cymru erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 14 Hydref 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: TBC