a

a

Cyfle Gwaith: Cynghorydd Polisi ac Ymchwil i Rhun ap Iorwerth AS, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd

Cyhoeddwyd 16/08/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/08/2023   |   Amser darllen munudau

Cynghorydd Polisi ac Ymchwil i Rhun ap Iorwerth AS, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd

Ystod cyflog: £28,274 - £39,902 pro-rata

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar gyflog isaf y raddfa ar gyfer y band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd cyflog uchaf y raddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 14.8

Lleoliad: Senedd, Bae Caerdydd

Natur y penodiad: Parhaol

Cyf: MBS-056-23

Diben y swydd

Prif nod y swydd yw cynghori Arweinydd y Grŵp ac Aelodau'r Grŵp ar faterion polisi a chymryd rôl arweiniol wrth weithredu llif datblygu polisi a gwaith ymchwil y Grŵp.

Prif ddyletswyddau

  • Cynghori’r Arweinydd, Grŵp y Senedd a staff ar faterion datblygu polisi mewnol ac allanol.
  • Ysgrifennu areithiau ar ran yr Arweinydd yn ôl yr angen.
  • Asesu cyfleoedd perthnasol ar gyfer defnyddio ymgysylltu ac ymgynghori allanol i fesur barn unigolion allanol mewn perthynas â chynigion polisi ac awgrymu unrhyw newidiadau i bolisi yn seiliedig ar waith o'r fath.
  • Cyfrannu at y broses o baratoi cyhoeddiadau polisi pwysig ar ran yr Arweinydd a'r Grŵp a sicrhau bod cyhoeddiadau o'r fath yn cael eu hymchwilio’n effeithiol.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol

  • Profiad sylweddol o ddarparu gwasanaethau ymchwil neu ddeunydd briffio mewn amgylchedd seneddol neu debyg.
  • Profiad o gynllunio, gweithredu a gwerthuso prif anerchiadau a gweithgareddau ymgysylltu allanol.
  • Profiad o weithio'n effeithiol ym maes datblygu polisi ac ymchwil ar lefel strategol.

Cymwysterau Hanfodol

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.

Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Carmen.Smith@senedd.cymru 

Ffurflen gais

Manyleb y Swydd a'r Person

Gwybodaeth Bwysig

Buddion gweithio i Aelod

Dyddiad cau: 16:00, 23 Awst 2023

Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau