Peredur Owen Griffiths

Peredur Owen Griffiths

Cyfle Gwaith: Cynorthwy-ydd Cyfathrebu Digidol i Peredur Owen Griffiths AS

Cyhoeddwyd 06/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/08/2024   |   Amser darllen munudau

Cynorthwy-ydd Cyfathrebu Digidol i Peredur Owen Griffiths AS

£23,742 - £31,798 pro-rata

Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.

Hyd at 20 awr (Ystyrir rhannu’r swydd)

Cyfnod Penodol 18 mis

Lleoliad: Swyddfa Tŷ Hywel / Etholaeth / adref

Cyfeirnod:  MBS-021-24

Pwrpas y Swydd

Ymgymryd â gwaith cysylltiedig â digidol a chyfathrebu yn ôl yr angen ar gyfer yr Aelod o’r Senedd, gan sicrhau cadw at safonau cyfrinachedd.

Prif ddyletswyddau

  1. Cynorthwyo i ddatblygu presenoldeb cyfryngau cymdeithasol yr Aelod o’r Senedd
  2. Creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo amcanion yr Aelod o'r Senedd a gwella eu delwedd gyhoeddus
  3. Cynhyrchu deunydd ar-lein rheolaidd sy'n hysbysu'r cyhoedd am y gwaith a wneir gan yr Aelod o'r Senedd
  4. Cynorthwyo gydag e-gyfathrebu gydag etholwyr a grwpiau sy'n ymgyrchu ar faterion lleol
  5. Cymryd rhan mewn gweithgareddau allgymorth gyda thîm yr Aelod Senedd

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol

  • Profiad mewn amgylchedd dylunio gan gynnwys dal fideos, lluniau a sain
  • Profiad o gynhyrchu cynnwys cyfryngau cymdeithasol atyniadol ar wahanol lwyfannau
  • Profiad o ddefnyddio pecynnau TG e.e. pecynnau Microsoft megis Publisher, Outlook ac Excel a meddalwedd dylunio fel Canva, Camtasia a meddalwedd golygu digidol arall

Cymwysterau hanfodol

  • Lefel A neu gymhwyster cyfatebol
  • Sgiliau cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys creu cynnwys ar bob platfform
  • Cymraeg (Level 2 neu’n uwch)

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.

I wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Peredur.OwenGriffiths@senedd.cymru

Dyddiad cau: 19 Medi 2024, 17:00

Dyddiad cyfweliad: Wythnos yn dechrau 30 Medi 2024