Cynorthwy-ydd Seneddol a Chyfathrebu i Gareth Davies AS
Ystod cyflog: £24,143 - £35,388 pro-rata
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau gwaith: 37
Lleoliad: Ty Hywel, Caerdydd.
Parhaol
MBS-076-23
Diben y Swydd:
Rheoli ymgyrchoedd, cyfathrebu, ymchwil a chymorth seneddol yn ôl yr angen ar gyfer yr Aelod.
Prif ddyletswyddau:
- Paratoi a darparu allbynnau ymchwil a chyngor amserol o ansawdd uchel, adroddiadau, dadansoddiadau a deunydd briffio ar ystod o faterion polisi a deddfwriaeth yn ôl yr angen.
- Cynllunio, datblygu a chyflawni'r strategaeth a’r broses o reoli ymgyrchoedd yn y gymuned, ar yr holl gyfryngau ac yn y Senedd.
- Sefydlu a datblygu cysylltiadau cadarn o fewn y wasg, y cyfryngau darlledu ac ar-lein er mwyn hyrwyddo gwaith yr Aelod, gan gynnwys paratoi datganiadau i'r wasg, fideos a deunydd eraill sy’n gweddu ar gyfer yr holl gyfryngau.
- Nodi gweithgareddau a digwyddiadau etholaethol priodol a chyfleoedd seneddol i fynd ar drywydd amcanion ymgyrchu, polisi a gwaith achos allweddol yn ôl yr angen a datblygu ymyriadau priodol ac addas i sicrhau'r effaith a'r allbynnau mwyaf posibl.
Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol
- Profiad helaeth o weithio’n effeithiol yn y wasg ysgrifenedig, y byd darlledu neu ar-lein, neu’r sector cysylltiadau cyhoeddus, a hynny mewn amgylchedd gwleidyddol neu debyg yn ddelfrydol.
- Profiad o ddatblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu a threfnu ymgyrchoedd cyfryngau.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau ymdrin â’r cyfryngau, gan gynnwys llunio datganiadau i'r wasg
Cymwysterau Hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
- Gymhwyster ffurfiol, e.e. NVQ lefel 4 neu gymhwyster cyfwerth yn y cyfryngau neu ym maes cyfathrebu.
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i GarethL.Davies@Senedd.Wales