Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Materion Seneddol ar gyfer Elfed Williams
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyfeirnod: MBS-148-26
Prif ddyletswyddau:
- Monitro'r cyfryngau lleol a chenedlaethol am newyddion perthnasol.
-
Rheoli cyfrif cyfryngau cymdeithasol yr Aelod, yn ôl cyfarwyddyd yr Aelod neu aelod uwch o staff.
- Cynorthwyo gyda'r gwaith o ddrafftio cwestiynau Senedd, llythyrau at Weinidogion, papurau briffio ac areithiau.
- Helpu i drefnu a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Disgwylir iddynt fod yn hyddysg gyda'r adnoddau a'r offer arferol ar gyfer y swydd e.e. pecynnau meddalwedd safonol, a bod yn gyfarwydd â’r cyfryngau ar-lein.
- Sgiliau da ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu, ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd mewn pwnc perthnasol