Cynorthwyydd Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd i Hannah Blythyn AS
Ystod cyflog: £21,862 - £29,483 pro rata
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau gwaith: 30
Lleoliad: Gweithio gartref a Thŷ Hywel (disgwylir i chi ddod i Dŷ Hywel ar ddiwrnodau’r Cyfarfod Llawn)
Natur y penodiad: Parhaol.
Cyf: MBS-027-23
Diben y swydd:
Cynorthwyo i ddarparu amrywiaeth o gyfathrebiadau, ymgyrchoedd ac ymchwil i’r Aelod o’r Senedd a bod â’r gallu i gyflwyno cyfathrebiadau, ymgyrchoedd a chyngor ymchwil o ansawdd uchel gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau:
- Cynnal gwaith ymchwil i faterion lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ôl y gofyn a sicrhau bod yr Aelod o’r Senedd yn ymwybodol o unrhyw faterion perthnasol.
- Paratoi datganiadau i’r wasg, colofnau, diweddariadau electronig, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, arolygon, nodiadau briffio ac unrhyw ddogfennau eraill sy'n ofynnol gan yr Aelod.
- Darparu papurau briffio a gwybodaeth i gynorthwyo’r Aelod o’r Senedd wrth iddo ymdrin â gwaith achos etholaethol neu er mwyn helpu i lywio gwaith ehangach.
- Nodi digwyddiadau sydd i ddod a allai fod yn gyfleoedd ar gyfer sylw yn y cyfryngau
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Rhywfaint o brofiad o weithio'n effeithiol o fewn y diwydiant cyfathrebu ysgrifenedig, ar-lein, yn ddelfrydol o fewn amgylchedd gwleidyddol neu debyg;
- Rhywfaint o brofiad o ddatblygu a gweithredu strategaethau cyfathrebu a threfnu ymgyrchoedd
- Y gallu i ysgrifennu copi ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd a dibenion ac i gynhyrchu briffiau/hysbysiadau i'r wasg gan ddefnyddio amrywiaeth o becynnau TG gan gynnwys Microsoft Word, Outlook, Excel a CANVA
Cymwysterau Hanfodol
- Profiad y gellir ei ddangos o weithio tuag at gymwysterau lefel Gradd sy'n berthnasol i'r rôl neu;
- Gymhwyster ffurfiol, e.e. NVQ lefel 4 neu gymhwyster cyfwerth yn y cyfryngau neu ym maes cyfathrebu.
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Hannah.Blythyn@cynulliad.cymru
Dyddiad cau: 12:00, 07 Gorffennaf 2023
Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau