Cynorthwyydd Etholaethol i Laura Anne Jones AS
Ystod Cyflog: £21,225 - £28,624 pro-rata
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau Gweithio: 22.2 awr
Natur y penodiad: Parhaol.
Lleoliad: Swyddfa ranbarthol (Casnewydd)
Cyfeirnod: MBS-065-22
Pwrpas y Swydd
Darparu cymorth gweinyddol ac etholaethol, a chymorth ar faterion cyhoeddusrwydd, i'r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau:
1. Sicrhau y caiff yr Aelod wahoddiadau rheolaidd i gwrdd ag aelodau o grwpiau/cymdeithasau a sgwrsio â hwy a sicrhau y caiff ymweliadau eu cofnodi ar gronfa ddata.
2. Cynnal dyddiadur o apwyntiadau ar gyfer yr Aelod, a fydd yn cynnwys rheoli apwyntiadau a chyfarch ymwelwyr yn ôl yr angen.
3. Ymateb i ymholiadau gan etholwyr, gwleidyddion eraill, y cyfryngau, lobïwyr a grwpiau pwyso.
4. Sicrhau bod pob achos yn cael ei gofnodi, monitro cynnydd a sicrhau bod yr holl gamau gweithredu a nodwyd yn cael eu cymryd.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol
Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.
Rhywfaint o brofiad o ddefnyddio pecynnau TGCh e.e. pecynnau Microsoft fel Word, Outlook ac Excel.
Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn.
Cymwysterau hanfodol
• Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
• Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch.
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Edward.Sumner@senedd.cymru
Dyddiad cau: 17:00 1 Rhagfyr 2022.
Dyddiad cyfweliad: I’w gadarnhau