Cynorthwyydd Gwaith Achos ar gyfer Joshua Kim AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa'r Etholaeth (Bargoed)
Cyfeirnod: MBS-006-26
Diben y swydd:
Rhoi cymorth gweinyddol ac etholaethol i’r Aelod o’r Senedd, ynghyd â chymorth gyda chyhoeddusrwydd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau:
- Ymateb i ymholiadau etholwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu mewn llythyrau.
- Darparu cyngor sylfaenol a gwasanaeth cyfeirio i etholwyr ar faterion fel tai, mewnfudo, lles, budd-daliadau ac iechyd.
- Cynnal cofnodion cywir a chyfrinachol o achosion etholwyr yn unol â chyfreithiau diogelu data.
- Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth o faterion cyfoes a materion sy'n berthnasol i Gymru, diddordeb yn system wleidyddol Cymru.
- Disgwylir iddynt fod yn hyddysg mewn maes gwaith gweinyddol neu ymarferol; gallu ateb ystod safonol o ymholiadau gan eraill a gwybod pryd i atgyfeirio ymholiadau mwy cymhleth.
- Sgiliau cyfathrebu – Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da.
Cymhwysterau hanfodol:
- Yn gofyn am y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol e.e. busnes neu weinyddiaeth gyhoeddus.
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Joshua.Kim-MS@senedd.wales