Mark Drakeford

Mark Drakeford

Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Gweinyddol ac Ymchwilydd Polisi i Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd 19/10/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/11/2023   |   Amser darllen munudau

Cynorthwyydd Gweinyddol ac Ymchwilydd Polisi i Mark Drakeford AS

Ystod cyflog: £21,862 - £29,483  pro-rata

Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos

Lleoliad: Swyddfa'r Etholaeth yng Nghaerdydd

Parhaol

Cyfeirnod: MBS-085-23

Diben y Swydd:

Darparu gwasanaeth ysgrifenyddol / cymorth gweinyddol i’r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.

Prif ddyletswyddau:

1. Trawsgrifio/teipio (gan gynnwys sain) llythyrau a/neu adroddiadau amrywiol (yn fwy perthnasol i rôl Cynorthwyydd Personol - dilëwch os yw'n briodol).

2. Cynnal system ffeilio, gan gysylltu papurau blaenorol â gohebiaeth bresennol, a dod o hyd i ddogfennau pan wneir cais amdanynt.

3. Ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel y bo’n briodol.

4. Didoli’r post sy’n dod i mewn yn ôl blaenoriaeth a pharatoi atebion drafft i ohebiaeth arferol.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:

• Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa e.e. systemau llaw a chyfrifiadurol.
• Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn.
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.

Cymwysterau hanfodol:

• Cymhwyster NVQ lefel 3 neu gyfatebol mewn Gweinyddu Swyddfa, Gwasanaeth Cwsmeriaid neu bwnc perthnasol, neu
• Dystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch.

Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon

I gael manylion am y swydd cysylltwch ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Ramesh.Patel2@Senedd.cymru 

Gwybodaeth pwysig

Manyleb y person a'r swydd

Buddion gweithio i Aelod

Ffurflen Gais

Dyddiad cau: 17:00, 29 Rhagfyr 2023 

Dyddiad cyfweliad: 09 Ionawr 2024