Sioned Williams AS

Sioned Williams AS

Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Gweinyddol a Gweithiwr Achos i Sioned Williams AS

Cyhoeddwyd 05/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/03/2024   |   Amser darllen munudau

Cynorthwyydd Gweinyddol a Gweithiwr Achos i Sioned Williams AS

Ystod Cyflog: £23,088 - £29,483 pro rata

Mae disgwyl i'r holl staff newydd ddechrau ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau Gweithio: 18

Natur y penodiad: Parhaol

Lleoliad: Swyddfa rhanbarthol, Castell-nedd

Cyfeirnod: MBS-109-23

Pwrpas y Swydd

Darparu gwasanaeth ysgrifenyddol/cymorth gweinyddol a gwaith achos i'r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.

Prif ddyletswyddau

Ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel y bo’n briodol.

Didoli’r post a negeseuon e-bost sy’n dod i mewn a pharatoi atebion drafft i ohebiaeth arferol.

Cynnal system ffeilio, gan gysylltu papurau blaenorol â gohebiaeth gyfredol, a dod o hyd i ddogfennau pan fo cais amdanynt.

Cynnal dyddiadur apwyntiadau’r Aelod, trefnu a chanslo apwyntiadau a digwyddiadau calendr, cwrdd a chyfarch ymwelwyr yn ôl y gofyn.

Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol

• Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa e.e. â llaw ac yn gyfrifiadurol.
• Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn.
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.

Cymwysterau Hanfodol

• Sgiliau rhifedd a llythrennedd y gellir eu dangos e.e. TGAU Cymraeg/Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth) Gradd C neu'n uwch.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.

I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Branwen.Lloyd@senedd.cymru 

Dyddiad cau: 17.00, 01 Ebrill 2024.

Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau