Gweithiwr Achos, a chynorthwyydd y Wasg a’r Cyfryngau Cymdeithasol i Rhun ap Iorwerth AS
Ystod cyflog: £23,742 - £31,798 pro rata
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd cyflog uchaf y raddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: Lan i 37 awr
Lleoliad: Llangefni
Natur y penodiad: Cyfnod Penodol nes Mawrth 2024
Cyf: MBS-23-24
Diben y swydd
Darparu cymorth gweinyddol, etholaethol a seneddol yn ddwyieithog, a chymorth gyda chyhoeddusrwydd y cyfryngau cymdeithasol a’r wasg, i'r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau
- Ymateb i ymholiadau gan etholwyr, gwleidyddion eraill a'r cyfryngau
- Sicrhau bod pob achos yn cael ei gofnodi; monitro cynnydd a sicrhau bod yr holl gamau gweithredu a nodwyd yn cael eu cymryd
- Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw, a gwybodaeth yn cael ei rheoli'n gyfrinachol yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data
- Ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel sy’n briodol
Sgiliau ac ymddygiadau hanfodol
- Y gallu i weithio ar ei liwt ei hun ac i derfynau amser tyn, gyda’r gallu i weithio’n hyblyg ac i ymdopi ag amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- Sgiliau rhyngbersonol effeithiol a’r gallu i ymdrin ag amrywiaeth o bobl
- Y gallu i ysgrifennu yn safonol yn y Gymraeg a’r Saesneg
Cymwysterau Hanfodol
- Cymhwyster NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol neu;
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd amlwg e.e. TGAU Cymraeg a Saesneg (neu gymwysterau cyfatebol) gradd C neu’n uwch.
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Non.Dafydd@Senedd.cymru
Dyddiad cau: 12:00 (hanner dydd) , 30 Medi 2024
Dyddiad cyfweliad: 03 Hydref 2024