Janet Finch Saunders

Janet Finch Saunders

Cyfle Gwaith: Gweithiwr Achos a Gweinyddwr Swyddfa i Janet Finch-Saunders MS

Cyhoeddwyd 04/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/11/2024   |   Amser darllen munud

Gweithiwr Achos a Gweinyddwr Swyddfa i Janet Finch-Saunders MS

Ystod cyflog: £24,243 - £31,798

(Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band)

Oriau gwaith: 14.8 awr (2 ddiwrnod yr wythnos)

Natur y penodiad: Parhaol*

Lleoliad: Swyddfa Janet Finch-Saunders AS, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Cyfeirnod: MBS-039-24

Diben y swydd

Darparu cymorth gweinyddol ac etholaethol, a chymorth ar faterion cyhoeddusrwydd, i'r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.

Prif ddyletswyddau

  1. Ymateb i ymholiadau gan etholwyr, gwleidyddion eraill a'r cyfryngau
  2. Sicrhau bod pob achos yn cael ei gofnodi, monitro cynnydd, a sicrhau bod yr holl gamau gweithredu a nodwyd yn cael eu cymryd
  3. Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw a bod gwybodaeth yn cael ei rheoli'n gyfrinachol yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data
  4. Ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel y bo’n briodol

Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol

  • Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa
  • Gwybodaeth am y materion sy'n berthnasol i'r ardal leol a dealltwriaeth ohonynt
  • Rhywfaint o brofiad o ddefnyddio pecynnau TGCh e.e. pecynnau Microsoft fel Word, Outlook ac Excel
  • Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn

Cymwysterau Hanfodol

  • Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
  • Dystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch

I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Mostyn.Jones@senedd.wales

Dyddiad cau: 17:00, 02 Ionawr 2025

Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau.