Gweithiwr Achos i Janet Finch-Saunders AS
Reference: MBS-040-22
Ystod cyflog: £21,225 - £28,694 pro rata
(Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.)
Oriau gwaith: 14.8
Natur y penodiad: Cyfnod Penodol am chwe mis gyda'r potensial i ymestyn am ddeuddeg mis
Lleoliad: 29 Stryd Madoc, Llandudno, Conwy, LL30 2TL
Diben y swydd:
Cymryd yr awenau a darparu deunydd ymchwil, dadansoddi a briffio o ansawdd uchel i'r Aelod ar ystod eang o bynciau.
Prif ddyletswyddau:
- Ymateb i ymholiadau gan etholwyr, gwleidyddion eraill a'r cyfryngau
- Sicrhau bod pob achos yn cael ei gofnodi; monitro cynnydd a sicrhau bod yr holl gamau gweithredu a nodwyd yn cael eu cymryd
- Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw a gwybodaeth yn cael ei rheoli'n gyfrinachol yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data
- Ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel sy’n briodol
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol
- Rhywfaint o brofiad o ddefnyddio pecynnau TG. Er enghraifft, pecynnau Microsoft fel Word, Outlook ac Excel.
- Dealltwriaeth o frwydro yn erbyn gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal, ac ymrwymiad i'r rheini ac i Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan.
Cymwysterau Hanfodol:
- Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu;
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd amlwg e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch.
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais (mae CV yn ddewisol) at janet.finch-saunders@senedd.cymru