Gweithiwr Achos i Mabon ap Gwynfor AS
Ystod cyflog: £21,225 - £28,624 pro rata
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd cyflog uchaf y raddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Lleoliad: Swyddfa Etholaeth / Adref
Natur y penodiad: Parhaol.
Cyf: MBS-021-22
Diben y swydd
Darparu cefnogaeth weinyddol ac etholaethol a chefnogaeth o ran cyhoeddusrwydd i'r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau
1. Ymateb i ymholiadau gan etholwyr, gwleidyddion eraill, y cyfryngau, lobïwyr a grwpiau pwyso.
2. Datblygu a chynnal system gwaith achos gan sicrhau bod pob achos yn cael ei logio; monitro'r cynnydd a wneir a sicrhau bod yr holl gamau gweithredu a nodir yn cael eu cymryd
3. Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw a bod gwybodaeth yn cael ei rheoli'n gyfrinachol, yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data
4. Cynnal gwaith ymchwil i faterion lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ôl y gofyn a sicrhau bod y gwleidydd yn ymwybodol o unrhyw faterion perthnasol.
Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol
• Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa
• Rhywfaint o brofiad o ddefnyddio pecynnau TG. Er enghraifft, pecynnau Microsoft fel Word, Outlook ac Excel.
• Gwybodaeth am faterion sy'n berthnasol i'r ardal leol, a dealltwriaeth ohonynt
• Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad iddynt
Cymwysterau Hanfodol
• Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
• Sgiliau rhifedd a llythrennedd amlwg e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch.
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Llio.Hughes@Senedd.cymru
Dyddiad cau: 7 Gorffennaf 2022.
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau