Cyfle Gwaith: Rheolwr Swyddfa ar gyfer Claire Archibald AS

Cyhoeddwyd 02/10/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/10/2026

Cyfle Gwaith: Rheolwr Swyddfa ar gyfer Claire Archibald AS

Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496 

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Permanent
Lleoliad: Swyddfa'r Etholaeth a Thŷ Hywel, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-179-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Goruwchwylio staff, sicrhau gweithrediadau swyddfa llyfn a dirprwyo cyfrifoldebau’n effeithiol.  Rheoli cydweithwyr yn uniongyrchol, gan weithredu fel rheolwr llinell ar ran yr Aelod. Gall hyn gynnwys recriwtio, gwerthuso a nodi anghenion hyfforddi neu ddatblygu.
  • Bod yn gyfrifol am gynghori neu hyfforddi eraill ar ystod o faterion safonol ar gyfer y maes gwaith e.e. iechyd a diogelwch, rheoli cofnodion.
  • Sicrhau llywodraethu da, cydymffurfio â rheolau seneddol, codau ymddygiad, a chanllawiau moesegol.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
  • Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth yn ddoeth a diplomyddol, ac yn ddelfrydol o fewn amgylchedd gwleidyddol.
  • Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau a rhedeg swyddfa brysur.

 

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Cymhwyster lefel gradd neu brofiad proffesiynol cyfatebol.
  • Ystyrir gwybodaeth, sgiliau a phrofiad cyfatebol a gafwyd drwy gyflogaeth broffesiynol a gwasanaeth cyhoeddus.

 

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Claire.Archibald-MS@Senedd.Wales  .

I wneud cais, anfonwch eich cais at Claire.Archibald-MS@Senedd.Wales erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 09 Hydref 2026 am 17:00

Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau.