Rheolwr Swyddfa i Sarah MurphyAS
Ystod cyflog: £23,440 - £34,357 pro rata
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Lleoliad: Swyddfa etholaeth
Natur y penodiad: Parhaol
Cyf: MBS-033-22
Diben y swydd
Rheoli a chydgysylltu'r holl wasanaethau cymorth, gan gynnwys ymchwil, gweinyddiaeth a gwaith achos ar gyfer yr Aelod o’r Senedd. Bydd y tasgau allweddol yn cynnwys arwain ac ysgogi’r tîm o staff a rheoli cyllidebau a systemau'r swyddfa
Prif ddyletswyddau
- Rheoli dau aelod o’r tîm yn yr etholaeth sy'n atebol i’r Aelod o’r Senedd, gan gynnwys recriwtio a goruchwylio staff, rheoli perfformiad a materion eraill sy’n ymwneud â phersonél, a hynny yn ôl y galw.
- Rheoli systemau swyddfa, goruchwylio gweithgareddau swyddfa, trefnu llwyth gwaith, a gweithio'n agos gydag aelodau eraill o staff i sicrhau bod pawb yn gweithio’n gydlynol fel tîm;
- Darparu cymorth ysgrifenyddol, gwaith achos, ymchwil a gweinyddol cynhwysfawr yn ôl y galw.
- Cydgysylltu gweithgareddau'r swyddfa i sicrhau yr ymdrinnir ag ymholiadau ffôn, ymholiadau electronig ac ymwelwyr mewn modd priodol a phroffesiynol
Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol
- Profiad o weithio'n effeithiol mewn swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb, yn ddelfrydol mewn amgylchedd gwleidyddol.
- Profiad o weithio mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau a rhedeg swyddfa brysur
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol
Cymwysterau Hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
Gymhwyster NVQ lefel 3 neu - 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn Gweinyddu Swyddfa, Gwasanaeth Cwsmeriaid neu bwnc perthnasol
Sgiliau ac Ymddygiadau Hanfodol
- Y gallu i reoli llwyth gwaith trwm gyda blaenoriaethau sy’n gwrthdaro.
- Y gallu i ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd swyddfa, gan gynnwys prosesu geiriau, y rhyngrwyd a phecynnau cyflwyno
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Annemarie.Tischer@senedd.cymru
Dyddiad cau: 12pm (canol dydd), 01 Awst 2022.
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau