Alun Davies

Alun Davies

Cyfle Gwaith: Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cymdeithasol i Alun Davies AS

Cyhoeddwyd 22/01/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/02/2025

Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cymdeithasol i Alun Davies AS

Ystod cyflog: £30,520 - £42,811

(Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band)

Oriau gwaith: 37

Natur y penodiad: Parhaol

Lleoliad: Bae Caerdydd, gyda gwaith achlysurol (un diwrnod yr wythnos fel arfer) ym Mlaenau Gwent

Cyfeirnod: MBS-045-24

Diben y swydd

Rheoli gwaith sy’n gysylltiedig â’r wasg a’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer yr Aelod, fel sy'n ofynnol, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.

Prif ddyletswyddau

  • Sefydlu a datblygu cysylltiadau cadarn â'r wasg, y cyfryngau ar-lein a’r cyfryngau darlledu er mwyn hyrwyddo gwaith yr Aelod.
  • Cynllunio a datblygu strategaethau, a threfnu ymgyrchoedd cyfryngau a chyfathrebu digidol.
  • Hyrwyddo presenoldeb yr Aelod ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn hysbysu etholwyr a rhanddeiliaid am waith yr Aelod yn lleol ac yn y Senedd.
  • Cynhyrchu fideos, ffeithluniau ac offer cyfathrebu eraill i'w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol

  • Profiad o weithio’n effeithiol mewn rôl cyfathrebu/cyfryngau cymdeithasol, megis yn y wasg ysgrifenedig, y diwydiant darlledu neu ar-lein, neu’r sector cysylltiadau cyhoeddus, yn ddelfrydol mewn amgylchedd gwleidyddol neu debyg.
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu a threfnu ymgyrchoedd yn y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Profiad o ddefnyddio dulliau cyfathrebu digidol a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau ymdrin â’r cyfryngau, gan gynnwys llunio datganiadau i'r wasg.
  • Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn

Cymwysterau Hanfodol

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu
  • Gymhwyster ffurfiol, e.e. NVQ lefel 4 neu gymhwyster cyfatebol yn y cyfryngau neu ym maes cyfathrebu.

I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Alun.Davies@senedd.cymru 

Dyddiad cau: 17:00, 12 Chwefror 2025

Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau.